Neidio i'r cynnwys

Mary Gors

Oddi ar Wicipedia
Mary Gors
Man preswylCaerfyrddin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru

Gwrach neu 'wraig hysbys' chwedlonol oedd Mary Gorse ac roedd yn byw yn ardal Caerfyrddin.

Yn ôl y chwedl roedd Mary Gorse yn wrach a oedd yn cardota yn ardal Caerfyrddin. Un tro, gwrthododd ffermwr o Benlan, Mr Tomos, roi bwyd iddi, ac wrth iddi adael darganfyddodd y ffermwr fod ei holl foch ar do ei dŷ.

Ymbiliodd â Mary, a rhoddodd fwyd iddi, ac o fewn dim, dychwelwyd y moch i’w lleoliad gwreiddiol yn y twlc.

Mae fferm fach o’r enw "Gors" yn ardal Trawsmawr ryw 6 km i’r gogledd o Gaerfyrddin. Roedd yr hen ddyn oedd yn byw yno pan oeddwn yn blentyn yn eitha ‘cymeriad’.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]