Mary Bevan

Oddi ar Wicipedia
Mary Bevan
GanwydDyffryn Aeron Edit this on Wikidata
Bu farw3 Chwefror 1819 Edit this on Wikidata
Man preswylBrenhiniaeth Imerina Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcenhadwr Edit this on Wikidata
PriodThomas Bevan Edit this on Wikidata

Roedd Mary Bevan (née Jacob, ?–1819) yn un o'r cenhadon a deithiodd o Neuaddlwyd, Ceredigion i Fadagasgar yn 1818 i sefydlu cenhadaeth Gristnogol yno.[1]

Ganwyd Mary ar fferm Penrallt-wen yn nyffryn Aeron rhwng 1795 a 1800. Roedd ei theulu yn aelodau o Eglwys Annibynnol Neuaddlwyd, a derbyniwyd hithau hefyd yn aelod yn 1807. Yn 1818 teithiodd gyda'i gẇr Thomas Bevan i Frenhiniaeth Imerina (Madagasgar heddiw) gan hwylio o Gravesend ym mis Chwefror a chyrraedd Mauritius ar 3 Gorffennaf, er iddynt orfod dychwelyd i Loegr ac ail-gychwyn y siwrne oherwydd tywydd garw. Roedd yn feichiog erbyn hynny, ac arhosodd yno, tra bod Thomas yn hwylio yn ei flaen i Fadagasgar gyda David Jones. Arhosodd Louisa Darby, priod David Jones, hefyd yn Mauritius. Dychwelodd Thomas i Mauritius ym mis Hydref i nol Mary a'u plentyn.

Bu farw Mary, o glefyd malaria yn ôl pob tebyg, ar 3 Chwefror 1819. Bu farw ei phlentyn bythefnos ynghynt, ar 20 Ionawr, a Thomas hefyd, ar 30 Ionawr. Claddwyd hwy ym mynwent Tamatave ar arfordir orllewinol Madagasgar.

Mae Mary Bevan yn cael ei chofio hyd heddiw fel un o'r cenhadon a ddaeth â Christnogaeth i'r ynys, ac yn arbennig cyfraniad Thomas a hithau i'r gwaith o sefydlu'r ysgol gyntaf yno.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]