Martin van Maële
Martin van Maële | |
---|---|
![]() Llun gan Martin van Maële: La Grande danse macabre des vifs | |
Ffugenw | Martin Van Maele ![]() |
Ganwyd | Maurice François Alfred Martin van Miële ![]() 12 Hydref 1863 ![]() Boulogne-Billancourt ![]() |
Bu farw | 5 Medi 1926 ![]() Varennes-Jarcy ![]() |
Dinasyddiaeth | Ffrainc ![]() |
Galwedigaeth | darlunydd ![]() |
Tad | Alfred Louis Martin ![]() |

Roedd Martin van Maële neu'n llawn: Maurice François Alfred Martin van Miële (12 Hydref 1863 – 5 Medi 1926) yn ddylunydd llyfrau o Ffrainc. Ei lysenw oedd 'Martin van Maële' ac weithiai roedd yn llofnodi'i waith fel A. Van Troizem. Ei waith pob dydd oedd dylunio llyfrau, yn enwedig rhai erotig, dychanol.
Geni a teulu
[golygu | golygu cod]Fe'i ganed yn Boulogne sur Seine ger Paris ble roedd ei dad hefyd yn arlunydd.[1]
Priododd Marie Françoise Genet; ond ni chawsant blant.

Gwaith
[golygu | golygu cod]Gweithiodd ym Mrwsel a Paris. Mae'n fwyaf enwog am ddylunio llyfr o gerddi 'Paul Verlaine', a gyhoeddwyd yn gyfrinachol. Cyn hynny roedd wedi dylunio un o lyfrau H. G. Wells - Les Premiers Hommes dans la Lune (neu Dynion ar y Lleuad), (Felix Juven, 1901). Yr un flwyddyn, dyluniodd Van Maële lyfr gan Anatole France - Thais, cyhoeddwyd gan Charles Carrington.
Marw
[golygu | golygu cod]Bu farw ar 5 Medi 1926, yn 62 oed, a'i gladdu ym mynwent Varennes-Jarcy.[2]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ gw.geneanet.org adalwyd 12 Ebrill 2016
- ↑ Eroticabibliophile.com
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- The Erotica Bibliophile Martin van Maële
- History of Art: Erotica in Art - Martin van Maële Archifwyd 2007-10-30 yn y Peiriant Wayback