Mariner 9
Gwedd
| Enghraifft o: | orbiter, robotic spacecraft |
|---|---|
| Màs | 997.9 cilogram, 558.8 cilogram |
| Rhan o | Rhaglen Mariner |
| Rhagflaenwyd gan | Mariner 8 |
| Olynwyd gan | Mariner 10 |
| Gweithredwr | Labordy Propulsion Jet |
| Gwneuthurwr | Labordy Propulsion Jet |
| Echreiddiad orbital | 0.6014 |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/09bpd |
Chwiliedydd gofod di-griw a anfonwyd gan NASA i archwilio'r blaned Mawrth oedd Mariner 9. Fe’i lansiwyd o Cape Canaveral yn Florida, yr Unol Daleithiau, ar 30 Mai 1971 a chyrhaeddodd y blaned Mawrth ar 14 Tachwedd yr un flwyddyn. Felly, hi oedd y llong ofod gyntaf i orbitio planed arall. Ar ôl misoedd o stormydd llwch llwyddodd i anfon lluniau clir o'r wyneb yn ôl i'r Ddaear. Dychwelodd Mariner 9 7,329 o ddelweddau yn ystod ei orchwyl, a ddaeth i ben ym mis Hydref 1972.