Marin Mersenne
Gwedd
| Marin Mersenne | |
|---|---|
Marin Mersenne | |
| Ganwyd | 8 Medi 1588 Oizé |
| Bu farw | 1 Medi 1648 o lung abscess Paris |
| Dinasyddiaeth | Ffrainc |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | athronydd, diwinydd, mathemategydd, cerddolegydd, damcaniaethwr cerddoriaeth, ffisegydd, seryddwr |
| Adnabyddus am | Harmonie universelle, La verite des sciences, Mersenne prime, Mersenne's laws, Q2921751 |
| Prif ddylanwad | René Descartes |
Diwinydd, athronydd naturiol, a mathemategydd o Ffrainc oedd Marin Mersenne (8 Medi 1588 – 1 Medi 1648).
Ganed ger Oizé, Maine, yng ngogledd-orllewin Teyrnas Ffrainc. Wedi iddo dderbyn addysg yr Iesuwyr yng ngholeg La Flèche, aeth i Baris tua 1609 i astudio diwinyddiaeth yn y Sorbonne a'r Collège de France. Ymunodd ag Urdd Gatholig y Minimiaid ym 1611, gan fwrw ei nofyddiaeth yn Nigeon (bellach Chaillot, Paris) a Meaux. Darlithiodd ar bynciau athroniaeth a diwinyddiaeth yn Nevers o 1614 i 1618. Ymsefydlodd ym Mharis ym 1619, a theithiodd yn fynych i'r Iseldiroedd, yr Eidal, a rhannau eraill Ffrainc. Bu farw ym Mharis yn 59 oed.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Marin Mersenne. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Gorffennaf 2021.