Maria Lvova-Belova
Maria Lvova-Belova | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Мария Алексеевна Львова-Белова ![]() 25 Hydref 1984 ![]() Penza ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | gwleidydd ![]() |
Swydd | Aelod o Gyngor Ffederasiwn Rwsia ![]() |
Plaid Wleidyddol | Rwsia Unedig ![]() |
Gwobr/au | Tystysgrif er Anrhydedd Arlywydd Ffederasiwn Rwsia ![]() |
Gwleidydd o Rwsia yw Maria Alekseyevna Lvova-Belova (Rwseg: Мария Алексеевна Львова-Белова; ganwyd 25 Hydref 1984). Mae hi'n gwasanaethu fel y Comisiynydd Arlywyddol dros Hawliau Plant yn Rwsia ers 2021.
Ym mis Mawrth 2023, cyhoeddodd y Llys Troseddau Rhyngwladol warant arestio ar gyfer Lvova-Belova. Dywedir iddi alltudio nifer o blant yn anghyfreithlon o Wcráin i Rwsia yn ystod y goresgyniad Rwsia o'r Wcráin yn 2022.[1]
Cafodd Lvova-Belova yn Penza. Graddiodd hi o Goleg Diwylliant a Chelfyddydau AA Arkhangelsky yn 2002 fel arweinydd.[2]
Rhwng 2000 a 2005, bu'n gweithio fel athrawes gitâr mewn ysgolion cerdd plant yn Penza. Cydsefydlodd a bu'n bennaeth ar sefydliad cyhoeddus rhanbarthol Penza ar gyfer hyrwyddo addasu cymdeithasol "Blagovest." Rhwng 2011 a 2014 a 2017 i 2019, roedd yn aelod o Siambr Ddinesig Penza Oblast, y tymor olaf yn gorgyffwrdd ag un yn Siambr Ddinesig Ffederasiwn Rwsia.[3]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "Putin arrest warrant issued over war crime allegations". BBC News (yn Saesneg). 17 Mawrth 2023. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Mawrth 2023. Cyrchwyd 17 Mawrth 2023.
- ↑ "Уполномоченный по правам ребенка в РФ Мария Львова-Белова. Досье" [Commissioner for Children's Rights in the Russian Federation Maria Lvova-Belova. Dossier]. Argumenty i Fakty (yn Rwseg). 27 Hydref 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Hydref 2021. Cyrchwyd 27 Hydref 2021.
- ↑ "Lvova-Belova Maria Alexeyevna". PenzaNews. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Awst 2020.