Margaret Travers Symons

Oddi ar Wicipedia
Margaret Travers Symons
GanwydMary Ann Williams Edit this on Wikidata
18 Awst 1879 Edit this on Wikidata
Paddington Edit this on Wikidata
Bu farw1951 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethysgrifennydd, swffragét, gwleidydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
TadRobert Williams Edit this on Wikidata

Ffeminist a swffragét o Loegr oedd Margaret Ann Travers Symons (ganwyd 18 Awst 1879) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am fod y ferch gyntaf i siarad yn Nhŷ'r Cyffredin y Deyrnas Unedig.

Fe'i ganed yn Paddington ar 18 Awst 1879.[1] Pensaer oedd ei thad. bu'n briod am gyfnod byr i ddyn o Seland Newydd a daethpwyd i'w hadnabod fel "Margaret Travers Symons". Hi oedd ysgrifenyddes y gwleidydd a'r llafurwr Keir Hardie.[2][3][4]

Ymgyrchu dros etholfraint[golygu | golygu cod]

Roedd Hardie, yn ffrind ac yn gariad i Sylvia Pankhurst ac yn cytuno'n llwyr gyda'r ymgyrch i roi pleidleisiau i fenywod, sef yr hyn a alwyd yn etholfraint. Roeddent yn aelodau sylfaenol o Ffederasiwn Swffragetiaid Dwyrain Llundain (East London Federation of Suffragettes), grŵp a dorrodd yn rhydd oddi wrth y WSPU. Roedd Travers Symons yn swffragét ac am gyfnod byr bu'n drysorydd cangen WSPU Llundain. Roedd Symons yn adnabod aelod seneddol ac roedd yn ymwybodol bod merched yn cael eu hebrwng fel ymwelwyr o amgylch adeiladau'r senedd. Trefnodd y byddai'n cael ei thywys o amgylch adeiladau'r senedd lle'r oedd twll bychan yn y wal, lle gallai menywod weld y brif siambr.[2][5] [6]

Torri ar draws Senedd Lloegr[golygu | golygu cod]

Ar 13 Hydref 1908, tra'n cael ei thywus o gwmpas y senedd, dihangodd o'i hebryngwr gan ymddangos yn Nhŷ'r Cyffredin lle roedd dadl. Gwaeddodd yn uchel "Pleidleisiau i Fenywod" a chafodd ei hebrwng oddi yno yn reit sydyn. Y noson hon, roedd criw o swffragetiaid yn protestio y tu allan i'r adeilad. Arestiwyd Emmeline Pankhurst yn ddiweddarach am drefnu'r digwyddiad ac fe'i dyfarnwyd i dri mis yn y carchar.[7]

Adroddwyd am y digwyddiad mewn papurau newydd cenedlaethol, bydeang, gan i Margaret Travers Symons weithredu mewn modd hanesyddol, fel y fenyw gyntaf i siarad yn Nhŷ'r Cyffredin.[7]

Y ferch gyntaf i gymryd ei sedd ar ôl cael ei hethol i'r senedd Brydeinig oedd Nancy Astor, yr is-iarlles Astor. Cafodd ei hethol ym 1919 yn dilyn yr ymlacio a oedd yn caniatáu rhai menywod mewn etholiadau Prydeinig.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "The First Woman to Speak in Parliament was Welsh". Rainbow Dragon (yn Saesneg). 2018-10-10. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-10-12. Cyrchwyd 2018-10-12.
  2. 2.0 2.1 Elizabeth Crawford (2 Medi 2003). The Women's Suffrage Movement: A Reference Guide 1866-1928. Routledge. tt. 669–670. ISBN 1-135-43402-6.
  3. Dyddiad geni: http://www.rainbowdragon.org/2018/10/10/the-first-woman-to-speak-in-parliament-was-welsh/.
  4. Man geni: http://www.rainbowdragon.org/2018/10/10/the-first-woman-to-speak-in-parliament-was-welsh/.
  5. "Sylvia Pankhurst". Spartacus Educational (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-10-12.
  6. Aelodaeth: http://www.rainbowdragon.org/2018/10/10/the-first-woman-to-speak-in-parliament-was-welsh/.
  7. 7.0 7.1 "Kezia Dugdale: We desperately need feminists in Labour, including the male ones". The Independent (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-10-12.