Maredudd ab Owain Glyn Dŵr

Oddi ar Wicipedia
Maredudd ab Owain Glyn Dŵr
Ganwyd14 g Edit this on Wikidata
Bu farw15 g Edit this on Wikidata
TadOwain Glyn Dŵr Edit this on Wikidata
MamMargaret Hanmer Edit this on Wikidata

Roedd Maredudd ab Owain Glyn Dŵr, neu Maredudd ab Owain ap Gruffudd (fl. diwedd y 14g – chwarter cyntaf y 15g), yn fab i Margaret Hanmer ac Owain Glyn Dŵr, Tywysog Cymru a disgynydd o deulu brenhinol Powys Fadog, arweinydd gwrthryfel mawr 1400 – c.1416 i ennill annibyniaeth i Gymru ar Loegr. Fel yn achos gweddill plant Owain Glyn Dŵr, ychydig o ffeithiau cadarn sydd gennym ni am Faredudd.

Y gwrthryfel[golygu | golygu cod]

Ni wyddys dim o gwbl am ran Maredudd yng ngwrthryfel ei dad, ond gellid tybied ei fod yn bresennol wrth ochr y tywysog ar sawl achlysur yn y cyfnod 1400-1409. Mae'n ddigon posibl yn ogystal iddo dreulio rhan o leiaf o'r cyfnod rhwng diflannu Owain Glyn Dŵr o'r cofnodion ar ôl cwymp castell Harlech a thua 1414 yn llochesu gyda'i dad rywle yng Nghymru neu'r gororau.

Dial[golygu | golygu cod]

Credir i Faredudd ymladd ar ochr y Ffrancod yn erbyn byddin Seisnig Harri V o Loegr ym mrwydr Agincourt yn 1415.

Erbyn 1416 roedd yn ôl yng ngogledd Cymru yn ceisio ail-gynneu'r gwrthryfel gyda llu o Albanwyr.

Gwrthod pardwn brenhinol[golygu | golygu cod]

Gwyddys iddo wrthod derbyn pardwn brenhinol gan frenin Lloegr iddo fo ei hun a'i dad y flwyddyn ganlynol, 1417, a gynigiwyd iddo gan swyddogion Harri V.

Yn 1420 cafodd John o Gaerhirfryn, Dug 1af Bedford, brawd iau y brenin Harri V, ei awdurdodi i drafod termau gyda Maredudd ab Owain ar ran y brenin, ac i ofyn iddo ystyried gwasanaethu ym myddin brenin Lloegr yn Normandi, mewn cyfnewid am bardwn. Gwrthododd Maredudd.

Ond ar 8 Ebrill, 1421, derbyniodd bardwn, iddo fo ei hun ; ffaith sy'n awgrymu efallai fod ei dad yn farw erbyn hynny. Buasai Owain Glyn Dŵr ymhell yn ei chwedegau erbyn hynny, pe bai dal yn fyw ; gwth o oedran yn yr Oesoedd Canol.

Ni wyddys be ddigwyddodd i Faredudd ar ôl 1421. Yn union fel ei dad, mae'r gwrthryfelwr gwydn hwn yn diflannu o dudalennau hanes.

Y flwyddyn ganlynol bu farw Harri V ei hun, o ddysentri, wrth ymgyrchu yn Ffrainc.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • R. R. Davies, The Revolt of Owain Glyn Dŵr (Rhydychen, 1995)