Marchnad Qissariya

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Marchnad Qissariya
Gold Market, Gaza City.jpg
Mathadeiladwaith pensaernïol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDinas Gaza Edit this on Wikidata
GwladBaner Palesteina Palesteina
Cyfesurynnau31.5031°N 34.4639°E Edit this on Wikidata

Mae'r Farchnad Aur (Arabeg: سوق الذهب; Souk ad-Dahab) ; a elwir hefyd yn Farchnad Qissariya, (Arabeg: سوق القيسارية‎ ) yn llwybr gul gyda tho (hy wedi'i gorchuddio) yn Hen Ddinas Gaza, yng Ngwladwriaeth Palesteina.

Mae'r Farchnad Aur yn ganolfan bwysig ar gyfer masnachu a phrynu aur, ac ar gyfer cyfnewid tramor.[1] Saif y Farchnad ar hyd ymyl ddeheuol Mosg Mawr Gaza,[2] wrth ymyl prif Stryd Omar Mukhtar. Coronir y farchnad gan do pigfain a chromennog, sydd wedi'i leinio ar y ddwy ochr gan siopau bach, gyda phob siop hefyd wedi'u toi'n dwt.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1476, gorchmynnodd barnwr Gaza, sef Sheikh Shams ad-Din al-Himsi adeiladu'r Farchnad Aur, dan reolaeth y Mamluk ym Mhalestina. Yn wreiddiol, roedd y Farchnad yn rhan o farchnad dan do lawer mwy, ond dinistriwyd y rhan fwyaf o'r ardal gan Fyddin Lloegr yn y 1940au.[2]

Trwy gydol y rhan fwyaf o'r 20g a'r 21g, prif ymwelwyr y farchnad yw dynion a menywod ar fin priodi, cwsmeriaid sy'n dewis gemwaith aur; yma hefyd y daw mamau-yng-nghyfraith i brynu anrhegion i'w merched-yng-nghyfraith. Fodd bynnag, oherwydd prinder bwyd, trydan a hanfodion bywyd yn Gaza oherwydd rhwystr Israel yn Llain Gaza, mae'r Farchnad Aur yn cael ei defnyddio'n bennaf gan pobl oedrannus Gaza sy'n gwerthu gemau a thlysau'r teulu i godi arian i brynu bwyd.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Jacobs, 1998, p.454.
  2. 2.0 2.1 2.2 Gold Market Review Archifwyd 2014-03-15 yn y Peiriant Wayback. Lonelyplanet. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "LP" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "LP" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]


Flag of Palestine.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Balesteina. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato