Malcolm Gwyon

Oddi ar Wicipedia

Artist a cherddor o Gymro yw Malcolm Gwyon sy'n wreiddiol o Aberteifi. Yn yr 1980au cynnar bu'n perfformio fel Malcolm Neon gan ryddhau sawl caset o gerddoriaeth synthpop/electronig arbrofol ar ei label ei hun, Casetiau Neon. Roedd hefyd yn cynhyrchu gwaith nifer o fandiau lleol. Defnyddiwyd y gân "Heno Bydd Yr Adar Yn Canu" fel teitl a cherddoriaeth agoriadol i'r rhaglen gerddoriaeth ar BBC Radio Cymru a gyflwynwyd gan Nia Melville.[1]

Cyhoeddwyd casgliad o'i ganeuon gan Fflach yn 1992.

Fel artist daeth yn adnabyddus am creu darluniau a phortreadau o rai o enwogion Cymru gan gynnwys Bryn Terfel, Wali Tomos a Gary Speed mewn dull pop-art.[2]

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod]

Teitl Fformat Label Rhif Catalog Dyddiad ryddhau
Chwilio Am Gwyddoniaeth Albwm, caset Casetiau Neon 001 Hydref 1980
Traddodiad Albwm, caset Casetiau Neon 002 Rhagfyr 1980
Mwnt Albwm, caset Casetiau Neon 003 Ebrill 1981
Colli Adlais Mewn Amser Albwm, caset Casetiau Neon 005 1981
Data EP, caset Casetiau Neon 006 1982
"Y Faner Goch" ar yr albwm O Aberteifi a Chariad Albwm amlgyfrannog, caset Casetiau Neon 007A/007B 1982
"Paid Gadael Fynd" ar Y Diawled / Eryr Wen / Y Ficar / Malcolm Neon 7" EP Recordiau Fflach RF AS 004 1982
Meibion Mwnt - Seren Goch (Malcolm/Wyn Davies) EP caset Casetiau Neon 010 1983
Gorwel (gyda John Wyn Tomos) Albwm fer, caset Casetiau Neon 011 1983
Awel Y Môr Albwm fer, caset Casetiau Neon 014 1984
Chwyldro! Albwm, caset Casetiau Neon 017 1985
Toriad EP, caset Casetiau Neon 018 1985
Heno Bydd Yr Angylion Yn Canu Albwm casgliad, caset Recordiau Fflach C120G 1992

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Curiad - Malcolm Neon. Curiad. Adalwyd ar 2 Chwefror 2017.
  2. Malcolm Gwyon, yr artist amryddawn , Golwg360, 10 Ebrill 2014. Cyrchwyd ar 3 Chwefror 2017.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]