Heno Bydd yr Adar yn Canu

Oddi ar Wicipedia
Hysbyseb ar gyfer y sioe o gylchgrawn Sothach, Medi 1992

Sioe ar BBC Radio Cymru oedd Heno Bydd yr Adar yn Canu, a ddarlledwyd rhwng 1989 ac 1995 fel rhan o stribed rhaglenni Hwyrach i bobl ifanc. Fe'i chyflwynwyd gan Nia Melville. Rhoddodd y llwyfan cyntaf i nifer o fandiau Cymraeg a oedd i ddod yn boblogaidd iawn, gan gynnwys Gorky's Zygotic Mynci, Catatonia a Super Furry Animals.

Cafodd y sioe ei henw ar ôl cân gan Malcolm Neon, a ddefnyddiwyd hefyd yn gerddoriaeth agoriadol i'r rhaglen.

Cyhoeddwyd casgliad o ganeuon a recordiwyd ar gyfer sesiynau y rhaglen yn 1995 - Triskedekaphilia (Ankstmusik, ANKST 061).