Neidio i'r cynnwys

Madog ap Selyf

Oddi ar Wicipedia
Madog ap Selyf
Galwedigaethcyfieithydd Edit this on Wikidata

Roedd Madog ap Selyf (fl. cyn 1282) yn llenor o Gymru yn yr iaith Ladin a chyfieithydd o'r iaith honno i'r Gymraeg. Fe'i cysylltir ag ardal Ceredigion.

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Ychydig iawn sy'n hysbys amdano. Tybir ei fod yn ŵr eglwysig yn Abaty Ystrad Fflur, ond nid oes tystiolaeth uniongyrchol o hynny. Posiblrwydd arall yw ei fod yn gysylltiedig â Llanbadarn.[1]

Cyfieithodd o leiaf ddau destun Lladin i'r Gymraeg rywbryd yn drydydd chwarter y 13g. Un ohonynt yw trosiad Cymraeg o'r Turpini Historia, sy'n adrodd rhan o hanes Siarlymaen, dan y teitl Cronicl Turpin. Mae'r testun i'w cael yn Llyfr Gwyn Rhydderch. Dyma a geir mewn coloffon i'r dudalen gyntaf:

A'r llyuyr hwnn a ymchoeles (cyfieithodd) Madawc ap Selyf o Ladin yg Kymraeg, o addolwyn a deisyf Grufud vab Maredud ab Owein ab Grufud ab Rys.[1]

Ar ofyniad Gruffudd ap Maredudd ab Owain, un o ddisgynyddion yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth, y gwnaeth Madog y gwaith, felly. Rydymm yn gwybod ei fod wedi trosi testun arall o'r Lladin i Gymraeg yn ogystal. Cyfieithiad o'r testun crefyddol poblogaidd Transitus Mariae yw hynny. Unwaith eto mae'r testun yn y Llyfr Gwyn.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 Stephen J. Williams (gol.) Ystorya de Carolo Magno (Caerdydd, 1968). Rhagymadrodd.