Maartin Allcock

Oddi ar Wicipedia
Maartin Allcock
Ganwyd5 Ionawr 1957 Edit this on Wikidata
Middleton Edit this on Wikidata
Bu farw16 Medi 2018 Edit this on Wikidata
o canser yr afu Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethgitarydd Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth Celtaidd Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.maartinallcock.com Edit this on Wikidata

Cerddor aml-offerynnol a chynhyrchydd recordiau oedd Maartin Allcock (ganwyd Martin Allcock; 5 Ionawr 195716 Medi 2018[1]) [2].

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganwyd Maartin yn Middleton, swydd Gaerhirfryn (Manceinion Fwyaf erbyn hyn) ac astudiodd gerddoriaeth yn Huddersfield a Leeds. Dechreuodd chwarae yn broffesiynol ym mis Ionawr 1976, yn chwarae mewn bandiau dawns a chlybiau gwerin. Roedd ei daith gyntaf yn 1977 gyda Mike Harding fel un o'r Brown Ale Cowboys. Aeth i Lydaw yn 1978, yn bwriadu aros am ychydig, ond arhosodd yn hirach nag a fwriadwyd, a dysgodd i goginio tra yno. [angen ffynhonnell] Ar ôl dychwelyd i Fanceinion, bu'n astudio i fod yn gogydd, gan fynd i weithio yn Ynysoedd y Shetland yn 1980.

Yn 1981 ymunodd â Bully Wee Band, grŵp Celtaidd gwerin, a arweiniodd at gyfnod 11 mlynedd fel gitarydd blaen gyda Fairport Convention, y band roc gwerin Prydeinig, rhwng Hydref 1985 a Rhagfyr 1996, ac ar yr un pryd pedair blynedd fel chwaraewr allweddellau gyda'r band roc Jethro Tull o Ionawr 1988 hyd Rhagfyr 1991. Yn ystod haf 1991 bu hefyd yn chwarae allweddellau ar gyfer The Mission. O'r 2000au cynnar cychwynnodd weithio ar ei liwt ei hun o'i gartref ar arfordir gorllewinol Eryri fel dyn sesiwn a chynhyrchydd recordiau gyda label recordio Sain.

Yn 2018, cyhoeddodd ar ei wefan ei fod wedi cael diagnosis o ganser yr afu a byddai'n ei gwneud ei berfformiad byw olaf yng Ngŵyl Cropredy 2018 cyn ymddeol.[3]

Gwaith sesiwn a chynhyrchu[golygu | golygu cod]

Roedd gyrfa sesiwn Allcock yn cynnwys perfformio ar fwy na 200 o albymau, yn cynnwys Robert Plant, Beverley Craven, Judith Durham, gitarydd Llydaweg Dan Ar Braz (chwe albwm), Ralph McTell, Dave Swarbrick, Yusuf Islam a Dafydd Iwan. Dechreuodd gynhyrchu recordiau Cymreig yn 2005 ac mae wedi cynhyrchu deg albwm ar gyfer Recordiau Sain yng Nghaernarfon. Roedd yn gitarydd fas a rheolwr taith i'r canwr-gyfansowddwr o Nashville Beth Nielsen Chapman.

Disgyddiaeth ddethol[golygu | golygu cod]

Albymau unigol[golygu | golygu cod]

  • MAART (1990)
  • OX15 (1999)
  • Serving Suggestion (2004)
  • Chilli Morning (2012)

Gyda Fairport Convention[golygu | golygu cod]

  • Here Live Tonight (Australia; 1986)
  • Expletive Delighted (1986)
  • More Live Tonight (Australia; 1986)
  • Cropredy Capers (Video; 1987)
  • Meet On The Ledge (1987)
  • The Other Boot (1987)
  • In Real Time (Live '87)
  • In Real Time (Video; 1987)
  • The Third Leg Woodworm (1988)
  • Red & Gold (1989)
  • The Five Seasons (1991)
  • Legends (Video; 1991)
  • 25th Anniversary Live (2CDs; 1992)
  • Jewel In The Crown Woodworm (1995)
  • Old.New.Borrowed.Blue (1996)

Cydweithio ag eraill[golygu | golygu cod]

  • Ralph McTell, "Bridge Of Sighs" (1987)
  • Simon Nicol, "Before Your Time" (1987)
  • Jethro Tull, "Rock Island" (1989)
  • Ralph McTell, "Love Songs"(1989)
  • Kieran Halpin, "Crystal Ball Gazing" (1989)
  • Beverley Craven, "Beverley Craven" (1990)
  • Steve Ashley, "Mysterious Ways" (1990)
  • Dan Ar Braz, "Songs" (1990)
  • Dan Ar Braz, "Frontieres de Sel" (1991)
  • Kieran Halpin, "Mission Street" (1991)
  • Jethro Tull, "Catfish Rising" (1991)
  • Jethro Tull, "In Concert" (1991, released 1995)
  • Ralph McTell, "Silver Celebration" (1992)
  • Ralph McTell, "The Boy With The Note" (1992)
  • Dan Ar Braz, "Les Îles de la Memoire" (1992)
  • Dan Ar Braz, "Rêve de Siam" (1992)
  • Dan Ar Braz, "Xavier Grall" (1992)
  • Simon Nicol, "Consonant Please Carol" (1992)
  • Robert Plant, "Fate Of Nations" (1993)
  • Ralph McTell, "Alphabet Zoo" (1993)
  • Beverley Craven, "Love Scenes" (1993)
  • Beth Nielsen Chapman, "Beth Nielsen Chapman" (2nd Album) (1993)
  • Les Barker, "Gnus and Roses" (1994)
  • Ralph McTell, "Slide Away The Screen" (1994)
  • Dan Ar Braz, "Theme For The Green Lands" (1994)
  • Ashley Hutchings, "Twangin' 'n' a-Traddin'" (1994)
  • Ashley Hutchings, "The Guv'nor's Big Birthday Bash" (1995)
  • Billy Connolly, "Musical Tour Of Scotland" (1995)
  • Judith Durham, "Mona Lisas" (1996)
  • Mandolin Allstars, "1st album" (1996)
  • Steve Tilston/Maggie Boyle, "All Under the Sun" (1996)
  • Chris Leslie, "The Flow" (1997)
  • The Simon Mayor Quintet, "Mandolinquents" (1997)
  • WAZ!, "WAZ!" (1998)
  • Dave Pegg And Friends, "Birthday Party" (1998)
  • Steve Gibbons, "The Dylan Project" (1998)
  • WAZ!, "Fully Chromatic" (1999)
  • David Hughes, "Recognised" (2000)
  • Ralph McTell, "Red Sky" (2000)
  • "Hope & Glory" (Soundtrack) (2000)
  • Sally Barker, "Another Train" (2000)
  • Emily Slade, "Shire Boy" (2001)
  • Kieran Halpin, "Back Smiling Again" (2002)
  • Alistair Russell, "A19" (2002)
  • John Wright, "Dangerous Times" (2002)
  • Swarb’s Lazarus, “Live and Kicking” (2006)
  • Mike Billington, "Sol Invictus" (2013)
  • The Bar-Steward Sons of Val Doonican, "Jump Ararnd" (2013)
  • The Bar-Steward Sons of Val Doonican, "The Devil Went Darn To Barnsley" (2014)
  • The Bar-Steward Sons of Val Doonican, "I'm Glad It's Not Black Friday Every Day" (2015)
  • The Bar-Steward Sons of Val Doonican, "Merry Xmas Everybody" (2016)
  • Scott Doonican & Dave Burland, "Wake Up, Little Suzie" (2016)

Fel cynhyrchydd recordiau:

  • Ralph McTell, Sand In Your Shoes (1995)
  • The Bar-Steward Sons of Val Doonican, "The Devil Went Darn To Barnsley" (2014)
  • The Bar-Steward Sons of Val Doonican, "I'm Glad It's Not Black Friday Every Day" (2015)
  • The Bar-Steward Sons of Val Doonican, "Merry Xmas Everybody" (2016)
  • Scott Doonican & Dave Burland, "Wake Up, Little Suzie" (2016)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Welcome to Maartin Allcock's Website". Maartinallcock.com. Cyrchwyd 17 September 2018.
  2. Bogdanov, Vladimir; Woodstra, Chris; Erlewine, Stephen Thomas (2002). All music guide to rock: the definitive guide to rock, pop, and soul. Hal Leonard Corporation. tt. 388–. ISBN 978-0-87930-653-3. Cyrchwyd 24 September 2011.Check date values in: |access-date= (help)
  3. "Welcome to Maartin Allcock's Website". Maartinallcock.com. Cyrchwyd 17 September 2018.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]