Môr-forwyn
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Delwedd:Резьба по дереву Поволжье XIX.jpg, John William Waterhouse A Mermaid.jpg | |
Daearyddiaeth | |
---|---|
Am y llyfr gan Roparz Hemon, gweler Morforwyn.

Delw o fôr-forwyn ddwygynffonnog ym Mhortmeirion.
Creadures chwedlonol sydd yn byw yn y môr ac iddi gorff dynes a chynffon pysgodyn yw môr-forwyn.[1] Ymddengys y fôr-forwyn ym mytholeg a llên gwerin sawl diwylliant, ac fel arfer maent yn swyno morwyr a dynion eraill ac yn eu hud-ddenu i ddyfnderau'r môr. Mewn straeon cyfatebol, mae'r fôr-forwyn yn troi ei chefn ar ei chartref yn y môr ac yn ymrithio ar ffurf merch gyfan er mwyn cyplu â dyn y tir, ac yn y diwedd dyna dranc y pâr. Gelwir creadur tebyg a chanddo ffurf wrywaidd a chynffon pysgod yn forwas, morfab, neu forddyn.
Portreadir y fôr-forwyn mewn herodraeth fel arfer gyda gwallt melyn hir ac yn dal crib yn ei llaw dde a drych yn ei llaw chwith.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
- Cei'r Fôr-Forwyn
- Porth Gwynedd, a elwir Mermaid's Cove yn Saesneg
- cwpan y fôr-forwyn, enw ar thalws yr alga Acetabularia
- esgid y fôr-forwyn, math o wymon
- maneg y fôr-forwyn (Halichondria palmata), sbwng
- pen y fôr-forwyn (Spatangus cordatus), môr-ddraenog
- pwrs y fôr-forwyn, enw ar goden wyau y pysgod cartilagaidd (siarcod, cathod môr, ac ati)
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ môr-forwyn. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 14 Tachwedd 2019.