Lutry

Oddi ar Wicipedia
Lutry
Mathbwrdeistref y Swistir Edit this on Wikidata
LL-Q150 (fra)-Eihel-Lutry.wav Edit this on Wikidata
Poblogaeth10,289 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethJacques-André Conne Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iSigriswil Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Ffrangeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLavaux-Oron District Edit this on Wikidata
GwladBaner Y Swistir Y Swistir
Arwynebedd8.46 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr383 metr, 597 metr Edit this on Wikidata
GerllawLlyn Léman Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau46.51508°N 6.69902°E Edit this on Wikidata
Cod post1095 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
maer Lutry Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethJacques-André Conne Edit this on Wikidata
Map

Tref a commune yn y Swistir ar lannau gogleddol Llyn Genefa yw Lutry. Mae'n perthyn i ardal Lavaux yn canton Vaud, a lleolir 5 km i'r de-ddwyrain o brifddinas y canton Lausanne. Ei phoblogaeth yw 8662 o drigolion (amgangyfrif 31 Rhagfyr 2005). Ar ddechrau'r 20g roedd hi'n dref ffarmio, ond heddiw mae llawer o'r trigolion yn teithio i Lausanne i weithio. Mae cynhyrchu gwin yn dal yn bwysig: mae gwinoedd appellation Lutry ac appellation Villette yn dod o'r ardal, ac dathlir gŵyl y Fête des Vendanges ar ddiwedd y cynhaeaf grawnwin.

Marchnad Dydd Sadwrn, Lutry

Hanes y dref[golygu | golygu cod]

Darganfuwyd 24 o feini hirion o'r Oes Haearn yn Lutry yn ystod gweithiau adeiladu maes parcio ym 1984. Mae hyn yn awgrymu i safle gael ei aneddu 4500-4000 o flynyddoedd CC. Mae'r cyfeiriad cyntaf at y dref (fel Lustriacum) yn dyddio i 516. Cafwyd ffurfiau eraill ar yr enw yn ystod yr Oesoedd Canol: Lustraco (907), Lustriei (1147), Lustrey (1160), Lustrie (1213) a Lustriez (1536). Defnyddiwyd y ffurf gyfoes (fel Lutri) am y tro cyntaf ym 1849. Mae'r hen dref ganoloesol mewn cyflwr da gyda'i strydoedd cul a hen dai o'r bymthegfed i'r 18g. Dim ond y Tour du Bourg-Neuf sy'n aros o hen furiau a phyrth y dref.

Meini hirion Lutry

Treuliodd yr ysgrifennwr Cymraeg Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan) gyfnod yn Lutry yn dysgu Saesneg mewn ysgol breifat.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Gwefan y dref (Ffrangeg)