Lucy Kirkwood
Gwedd
Lucy Kirkwood | |
---|---|
Ganwyd | Hydref 1983 Leytonstone |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llenor, sgriptiwr, dramodydd |
Gwobr/au | Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol |
Mae Lucy Kirkwood FRSL (ganwyd 1984)[1] yn ddramodydd a sgriptwraig Prydeinig. Ar hyn o bryd, mae hi'n ddramodydd preswyl efo'r cwmni Clean Break. Ym mis Mehefin 2018 etholwyd Kirkwood yn gymrawd y Gymdeithas Lenyddol Frenhinol (Royal Society of Literature) fel rhan o'u menter "40 Dan 40".[2] Mae ei dramau yn cynnwys Tinderbox, NSFW, Chimerica, The Children a Mosquitoes.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ganwyd a mawyd Kirkwood yn Leytonstone, dwyrain Llundain ac mae ganddi radd mewn Llenyddiaeth Saesneg o Brifysgol Caeredin. Yno roedd yn aelod o grŵp o actorion o'r enw 'the Improverts' a oedd yn arbenigo mewn sioeau byrfyfyr. Hefyd, bu'n sgwennu ar gyfer Cwmni Theatr Prifysgol Caeredin.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Profile in the Independent, 27 October 2009". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-06-23. Cyrchwyd 2018-11-29.
- ↑ Flood, Alison (2018-06-28). "Royal Society of Literature admits 40 new fellows to address historical biases". the Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-07-03.