Lu Corfield

Oddi ar Wicipedia
Lu Corfield
GanwydCymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata

Actores Cymreig yw Lucy "Lu" Corfield (ganwyd 1979 neu 1980), sy'n adnabyddus am ei rolau teledu, fel Freya Wilson yn Doctors, Ruth yn Last Tango yn Halifax a Joyce Edevan yn Clink. Ymddangosodd yng nghyfres poblogaidd BBC Three In My Skin. [1]

Cafodd Corfield ei magu yn Four Crosses ger Llanfair Caereinion, Powys.[2] Cafodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd y Trallwng, lle daeth yn brif ferch.[3] Ymunodd Theatr Ieuenctid Sir Drefaldwyn. Ar ôl ei harholiadau Safon Uwch, cysylltodd ag Amnest Rhyngwladol i sefydlu cwmni theatr y bu ar daith gydag ef am ddwy flynedd. [2] Wedyn, symudodd hi i Lundain ac astudiodd actio yn RADA am dair blynedd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "BBC orders a dark comedy about a teen and her mentally ill mum". Chortle (yn Saesneg). Cyrchwyd 27 Mawrth 2020.
  2. 2.0 2.1 BBC News - Lu Corfield's journey from Welshpool to Candy Cabs
  3. "Familar[sic] face in BBC comedy Candy Cabs". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-26. Cyrchwyd 2024-04-04.