Louise Michel

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Louise Michel
Louise Michel, grayscale.jpg
Louise Michel (tua 1880).
FfugenwEnjolras, La Vierge Rouge Edit this on Wikidata
GanwydLouise Michel Edit this on Wikidata
29 Mai 1830 Edit this on Wikidata
Vroncourt-la-Côte Edit this on Wikidata
Bu farw9 Ionawr 1905 Edit this on Wikidata
Marseille Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Ffrainc Ffrainc
Galwedigaethathro, bardd, addysgwr, awdures soffistigedig, newyddiadurwr, communard, anarchydd, gwleidydd, ffedogwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amQ42761326, The Red Virgin: Memoirs of Louise Michel Edit this on Wikidata
PartnerCharlotte Vauvelle Edit this on Wikidata
Llofnod
Signature de Louise Michel.jpg

Anarchydd, sosialydd chwyldroadol, a llenores Ffrengig oedd Louise Michel (29 Mai 18309 Ionawr 1905) sydd yn nodedig fel un o arweinwyr Comiwn Paris ym 1871.

Ganed hi yn Vroncourt-la-Côte, Haute-Marne, Teyrnas Ffrainc, yn ferch i Marianne Michel, morwyn ystafell i faer Vroncourt. Mae'n debyg taw Laurent Demahis, mab y maer, oedd ei thad. Derbyniodd addysg ryddfrydol gyda chymorth ariannol y maer a'i wraig, cyn iddi gael ei hyfforddi'n athrawes. Agorodd ysgol breifat ei hun yn Haute-Marne ym 1852.[1] Symudodd i Baris ym 1855, ac yno datblygodd ei syniadau chwyldroadol: dadleuodd o blaid rhyfel dosbarth a thrais gwleidyddol, a gwrthododd y broses seneddol a sosialaeth ddiwygiadol. Agorodd ysgol arall ym Montmartre ym 1865. Michel oedd un o sefydlwyr y Gymdeithas dros Hawliau Menywod ym Mharis ym 1870. Cafodd hefyd gysylltiadau â grwpiau o ryddfeddylwyr, Cymdeithas Ryngwladol y Gweithwyr, a dilynwyr Auguste Blanqui.

Yn ystod Rhyfel Ffrainc a Phrwsia (1870–71), pan oedd Paris dan warchae, ymaelododd â Phwyllgorau Gwyliadwriaeth menywod a dynion y 18fed arrondissement. Ymunodd ag achos y sosialwyr chwyldroadol a chroesawodd sefydlu Comiwn Paris ar 18 Mawrth 1870. Gyrrodd ambiwlansys a brwydrodd gyda'r Gwarchodlu Cenedlaethol—yn yr 61ain Fataliwn Montmartre—wrth amddiffyn y Comiwn yn erbyn lluoedd y Drydedd Weriniaeth. Yn sgil cwymp y Comiwn ar 28 Mai 1871, cafodd ei rhoi ar brawf yn y llys milwrol a'i dedfrydu i'r carchar. Fe'i halltudiwyd i ynys Caledonia Newydd, yn y Cefnfor Tawel, ac yno cefnogodd y bobl Kanak yn eu gwrthryfel yn erbyn Ymerodraeth Ffrainc ym 1878. Rhyddhawyd hi o'i chosb gan yr amnest ym 1880, a dychwelodd Michel i Ffrainc.

O ganlyniad i brofiad y Comiwn, trodd Michel at anarchiaeth yn hytrach na democratiaeth sosialaidd a'r etholfraint. Daeth i arddel strategaeth o wrthsafiad gwerin gwlad a'r streic gyffredinol er mwyn sbarduno chwyldro cymdeithasol, heb yr angen am lywodraeth. Darlithiodd ar draws y wlad, ac ystyriwyd yn arwres boblogaidd gan yr adain chwith. Parhaodd i alw am chwyldro yn erbyn y drefn oedd ohoni, a fe'i charcharwyd am dair blynedd am annog terfysg. Ymsefydlodd yn Llundain o 1886 i 1896. Cyhoeddodd ei hunangofiant, Mémoires, ym 1886 a'i hanes o'r Comiwn, La Commune ym 1898, ac ysgrifennodd hefyd farddoniaeth, nofelau, a straeon i blant. Dychwelodd i Ffrainc unwaith eto ym 1896 a darlithiodd ar bynciau chwyldroadol hyd at ei farwolaeth, yn 74 oed, ym Marseille.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. David A. Shafer, The Paris Commune: French Politics, Culture, and Society at the Crossroads of the Revolutionary Tradition and Revolutionary Socialism (Basingstoke, Hampshire: Palgrave Macmillan, 2005), t. 146.