Neidio i'r cynnwys

Louis Mahoney

Oddi ar Wicipedia
Louis Mahoney
Ganwyd8 Medi 1938 Edit this on Wikidata
Y Gambia Edit this on Wikidata
Bu farw28 Mehefin 2020 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethY Gambia Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Ganolog Llefaru a Drama Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor ffilm, actor teledu Edit this on Wikidata

Actor Prydeinig a anwyd yn y Gambia oedd Louis Felix Danner Mahoney (8 Medi 193828 Mehefin 2020[1]). Gwnaeth ei gartref yn Hampstead, Llundain. Roedd yn ymgyrchydd gwrth-hiliaeth ac wedi ymgyrchu am amser hir dros gydraddoldeb hiliol o fewn y byd actio. Cynrychiolodd aelodau Affricanaidd-Asiaidd ar gyngor yr undeb actorion, Equity, gan ddod yn Is-lywydd rhwng 1994 a 1996.[2]

Ganed Mahoney yn Y Gambia ym 1938. Ar ddiwedd y 1950au ymfudodd i Loegr, yn wreiddiol i astudio i fod yn feddyg, ond cefnodd ar ei uchelgais ar gyfer gyrfa feddygol i ddod yn fyfyriwr ysgol ddrama yn y 1970au.[2][3]

Cafodd ei weld gan amlaf ar y teledu mewn cyfresi fel: Danger Man, Dixon of Dock Green, Z-Cars, The Troubleshooters, Menace, Special Branch, Doctor Who (yn y straeon Frontier in Space, Planet of Evil a Blink), Quiller, Fawlty Towers (fel Dr Finn yn The Germans, 1975), The Professionals (fel Dr Henry yn y bennod Klansmen, na ddarlledwyd erioed ar deledu daearol yn y DU), Miss Marple, Yes, Prime Minister, Bergerac, The Bill, Casualty, Holby City a Sea of Souls.

Roedd ei ffilmiau yn cynnwys The Plague of the Zombies (1966), Omen III: The Final Conflict (1981), Rise and Fall of Idi Amin (1981), White Mischief (1987), Cry Freedom (1987), Shooting Fish (1997), Wondrous Oblivion (2003) a Shooting Dogs (2005).

Fe ymddangosodd yn rhaglen ddogfen Channel 4 Random (2011) ac yn nrama BBC Three Being Human (2012) fel Leo, bleidd-ddyn oedrannus ar farw.

Roedd ei ymddangosiad teledu olaf ar y chwaer-gyfres i Tracy Beaker ar CBBC, The Dumping Ground, yn chwarae Henry Lawrence, taid Charlie Morris (Emily Burnett).

Bu farw ar 28 Mehefin 2020, yn 81 oed.

Gwaith ymgyrchu

[golygu | golygu cod]

Roedd Mahoney yn ymgyrchydd dros gydraddoldeb hiliol o fewn y byd actio, fel aelod o'r Pwyllgor Affro-Asiaidd Equity (a elwid gynt yn Bwyllgor yr Actorion Lliwiedig nes iddo ef ei ailenwi). Sefydlodd Performers Against Racism i amddiffyn polisi Equity ar Dde Affrica,[2] a cyd-sefydlodd, gyda Mike Phillips, y Black Theatre Workshop ym 1976.

Ffilmyddiaeth

[golygu | golygu cod]
Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
1964 Guns at Batasi Milwr Heb gydnabyddiaeth
1965 Curse of Simba Arbenigwr o Affrica
1966 The Plague of the Zombies Gwas Lliw
1967 Prehistoric Women Prif Fachgen
1970 Praise Marx and Pass the Ammunition Julius
1973 Live and Let Die Fillet of Soul Patron (Efrog Newydd) Heb gydnabyddiaeth
Doctor Who Newyddiadurwr 2 bennod, Frontier in Space
1974 Whatever Happened to the Likely Lads? Frank 1 bennod, "In Harm's Way"
1975 Doctor Who Ponti 2 bennod, Planet of Evil
Fawlty Towers Doctor Finn 1 bennod; Yr Almaenwyr
1981 Omen III: The Final Conflict Brawd Paulo
Rise and Fall of Idi Amin Ymladdwr rhyddid Ofumbi
1984 Sheena Hynaf 1
1987 Cry Freedom Swyddog llywodraeth Lesotho
White Mischief Abdullah
1997 Shooting Fish Ynad
2003 Wondrous Oblivion Johnson
2005 Shooting Dogs Sibomana
Holby City Raymond Opoku 1 bennod
2007 Doctor Who Hen Billy 1 bennod; Blink
2013 Captain Phillips Criw Maersk Alabama
2016 Holby City Thomas Law 1 bennod
2018 National Theatre Live: Allelujah! Neville
The Dumping Ground Henry Lawrence

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Louis Mahoney: Trailblazing actor and activist dies at 81 (en) , BBC News, 30 Mehefin 2020.
  2. 2.0 2.1 2.2 "Louis Mahoney", Forward to Freedom: A history of the British Anti-Apartheid Movement 1959–1994, 2013.
  3. Louis Mahoney Biography at IMDb.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]