Locomotif 143 (Rheilffordd Eryri)
Enghraifft o'r canlynol | Locomotif Beyer Garratt |
---|---|
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Rhan o | South African Class NG G16 2-6-2+2-6-2 |
Lleoliad | Rheilffordd Eryri |
Lled y cledrau | two-foot gauge |
Gweithredwr | South African Railways and Harbours Administration |
Gwneuthurwr | Cwmni Beyer Peacock |
Gwladwriaeth | Undeb De Affrica, De Affrica, y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Gwynedd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Locomotif 143 yn locomotif cledrau cul Beyer Garratt dosbarth NGG16 2-6-2+2-6-2 ar Reilffordd Eryri, a adeiladwyd ym 1958 gan Gwmni Beyer Peacock ar gyfer Corfforaeth Copor Tsumeb.[1]
Hanes yn Ne Affrica[golygu | golygu cod]
Aeth o i Reilffordd De Affrica yn y pen draw. Aeth y locomotif i Port Elizabeth ym 1959, a gweithiodd ar gangen Avontuur. Symudwyd y locomotif i Natal ym 1961 a gweithiodd ar gangen Ixopo. Symudwyd 143 i Port Shepstone ynghanol yr 80au i weithio ar drenau coed.[2]
Rheilffordd Eryri[golygu | golygu cod]
Cyrhaeddodd 143 Cymru ym 1997 a dechreuodd waith ym Medi 1998. Du oedd llifrai y locomotif ye adeg honno. Atgyweirwyd 143 ar ddiwedd 2009. Addaswyd y locomotif i ddefnyddio glo, ac ail-beintiwyd y locomotif i fod yn wyrdd Brunswick. Atgyweriwyd 143 eto rhwng 2014 a Mai 2016. Atgyweirir y locomotif eto, gan gynnwys boeler newydd.[3]