Llyn y Gaseg-fraith
Jump to navigation
Jump to search
![]() | |
Math | llyn ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.1057°N 3.987°W ![]() |
![]() | |
Llyn bychan yn Eryri yw Llyn y Gaseg-fraith (ceir sawl amrywiad ar yr enw, e.e. Llyn Caseg Fraith, Llyn Caseg-Fraith). Fe'i lleolir yn y Glyderau rhwng Foel Goch i'r dwyrain a Glyder Fach i'r gorllewin, ger Capel Curig yn Sir Conwy, yn agos iawn i'r ffin rhwng Conwy a Gwynedd.[1]
Mae'r llyn ar lwyfandir uchel sy'n cael ei groesi gan Lwybr y Chwarelwyr, sy'n cysylltu Nant Ffrancon a Phen-y-Gwryd. Dyma'r llwybr byddai chwarelwyr o ardal Bethesda yn cerdded bob wythnos i gyrraedd chwareli Llyn Llydaw ger yr Wyddfa.[2]