Llyn Neuchâtel

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llyn Neuchâtel

Llyn Neuchâtel (Almaeneg: Neuenburgersee, Ffrangeg: Lac de Neuchâtel) yw'r llyn mwyaf sy'n gyfangwbl o fewn y Swistir, gydag arwynebedd o 217.9 km². Saif yng nghantonau Neuchâtel, Fribourg, Vaud a Bern.

Mae'r llyn yn 38.3 km o hyd ac yn 8.2 km o led yn y man lletaf. gyda dyfnder mwyaf o 152 medr. Ar y lan ogleddol, saif dinas Neuchâtel, ar y lan orllewinol Yverdon-les-Bains a Grandson, ac ar y lan ddeheuol Estavayer-le-Lac.