Llyn Llech Owain

Oddi ar Wicipedia
Llyn Llech Owain
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGors-las Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.816°N 4.078°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Mae Llyn Llech Owain yn llyn rhwng pentrefi Gors-las a Maes-y-bont, yn ne-ddwyrain Sir Gaerfyrddin.

Yn ôl traddodiad bu i Owain fab Urien Rheged, un o farchogion Arthur, ddod yma ac yfed o ffynnon gyda llechen fawr drosti. Yfodd ei wala ond anghofiodd roi'r llechen yn ôl yn ei lle. Gorlifodd y ffynnon gan ffurfio llyn. Wrth adael ar ei geffyl ar ymyl y llyn, peidiodd y dŵr a llifo ac yn ôl traddodiad mae ôl carnau'r ceffyl yn dal i'w gweld yno heddiw.

Llyn Llech Owain

Ceir adlais o'r Tair Rhamant canoloesol ynghyd â motifau llên gwerin cyfarwydd yn y traddodiad hwn.

Natur[golygu | golygu cod]

Mae'r neidr wair i'w chael yng Nghwm Gwendraeth. Tynnwyd y llun hwn yn yr ardd gefn a chae go wyllt drws nesa - a digon o wair! neidr wair yw enw arall arno. Mae'r ardd lle tynnwyd y llun yn agos i Lyn Llech Owain a cheir digon o fywyd gwyllt yno.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]