Llyn Glandwgan
Jump to navigation
Jump to search
Math |
llyn ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Ceredigion ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
52.358985°N 3.900162°W ![]() |
![]() | |
Llyn yng nghanolbarth Ceredigion yw Llyn Glandwgan. Fe'i lleolir yn y bryniau yn ardal Llanfihangel y Creuddyn, tua 3 milltir i'r gogledd-orllewin o Bontrhydygroes a thua 2 filltir i'r de-ddwyrain o Bontarfynach.
Tua hanner milltir i'r gogledd ceir Llyn Rhosrhydd. Llifa ffrwd o Lyn Rhosrhydd i Lyn Glandwgan ac mae'r ffrwd yn llifo allan ohono wedyn i lifo i Afon Magwr, un o lednentydd Afon Ystwyth.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Map OS Landranger 135 1:50,000