Llyn Fyrddon Fach

Oddi ar Wicipedia
Llyn Fyrddon Fach
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.316222°N 3.766989°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN796701 Edit this on Wikidata
Map

Llyn yng nghanolbarth Ceredigion yw Llyn Fyrddon Fach. Cyfeirnod OS: SN796701. Mae yn nhalgylch afon Hafren.

Gorwedd y llyn tua 530 metr uwch lefel y môr ym mryniau Elenydd tua 4 milltir i'r dwyrain o Bontrhydfendigaid ar ddarn o rosdir gwlyb ar y ffin rhwng Ceredigion a Phowys. Mae'n un o darddleoedd Afon Claerwen.

Gerllaw ceir Llyn Fyrddon Fawr: llai na chwarter milltir sydd rhwng y ddau lyn ac mae'r unig ffrwd sy'n llifo o Fyrddon Fach yn llifo i Fyrddon Fawr. Hanner milltir i'r de ceir llyn bychan arall, sef Llyn Du.

Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.