Llyn Cyfynwy
![]() | |
Math | llyn, cronfa ddŵr ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.083728°N 3.169136°W ![]() |
Rheolir gan | Hafren Dyfrdwy ![]() |
![]() | |

Llyn yn Sir Ddinbych yw Llyn Cyfynwy, yng nghymuned Llanarmon-yn-Iâl. Fe'i lleolir 2 filltir i'r de-ddwyrain o Lanarmon, ger Rhuthun yn Nyffryn Clwyd. Uchder: 1,290 troedfedd.[1]
Cofnodir yr enw fel "Lhyn Kyvonyw" mewn dogfen o'r 17g. Mae'n llyn gweddol fawr, tua hanner milltir i'r gogledd o'r briffordd A5104. Ceir brithyll yno.[1]
Ceir crug crwn cynhanesyddol ger y llyn, a adnabyddir fel Crug Llyn Cyfynwy.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ 1.0 1.1 Frank Ward, The Lakes of Wales (Llundain, 1931).