Llyn Bochlwyd
Jump to navigation
Jump to search
![]() | |
Math |
llyn ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
53.11385°N 4.01147°W ![]() |
![]() | |
Llyn yn Eryri, ym mwrdeisdref sirol Conwy, yw Llyn Bochlwyd. Saif yng Nghwm Bochlwyd yn y Glyderau, uwchben Llyn Idwal ac islaw Bwlch Tryfan, gyda mynyddoedd Tryfan a'r Glyder Fach gerllaw. Mae'n lyn uchel, 555 medr (1821 troedfedd) uwch lefel y môr, ac mae ganddo arwynebedd o 10.4 erw.
Mae Nant Bochlwyd yn tarddu o'r llyn ac yn llifo i lawr y llethrau tua'r gogledd i ymuno a Llyn Ogwen. Oddi uchod, er enghraifft o gopa Tryfan, mae ffurf y llyn yn edrych yn debyg i Awstralia.