Llyn Balkhash
Gwedd
| Math | llyn caeedig, llyn |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 18,200 km² |
| Uwch y môr | 342 metr |
| Cyfesurynnau | 46.5408°N 74.8789°E |
| Dalgylch | 501,000 cilometr sgwâr |
| Hyd | 620 cilometr |
![]() | |

Llyn yng Nghasachstan yw Llyn Balkhash (Casacheg: Балқаш Көлі, "Balķaš Kôli", Rwseg: Озеро Балхаш, "Ozero Balhaš"). Llyn Balkhash yw llyn mwyaf Casachstan, a'r ail-fwyaf yng Nghanolbarth Asia ar ôl y Môr Aral.
Saif y llyn yn ne-ddwyrain y wlad, i'r gogledd o ddinas Almaty. Mae ei hyd dros 600 km, a'i arwynebedd yn 18,200 km². Nid yw'n lyn dwfn, dim ond tua 25 medr yn y man dyfnaf, a thua 5 m ar gyfartaledd.
Llifa nifer o afonydd i'r llyn, yn cynnwys Afon Ili ac Afon Karatal, ond nid oes afon yn llifo allan. O ganlyniad, mae dyfroedd ochr ddwyreiniol y llyn yn lallt.
