Llygoden bengron Sgomer
Gwedd
Llygoden bengron Sgomer | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Rodentia |
Teulu: | Cricetidae |
Is-deulu: | Arvicolinae |
Genws: | Myodes |
Rhywogaeth: | M. glareolus |
Isrywogaeth: | M. g. skomerensis |
Enw trienwol | |
Myodes glareolus skomerensis Barrett-Hamilton, 1903 |
Mamal bach o drefn y cnofilod (Rodentia) yw Llygoden bengron Sgomer (Myodes glareolus skomerensis), sy'n isrywogaeth o Lygoden bengron goch.[1] Dim ond ar Ynys Sgomer oddi ar arfordir Sir Benfro y mae i'w chael. Mae tua 20,000 ohonyn nhw ar yr ynys. Nid oes ganddyn nhw ysglyfaethwyr fel llwynogod a gwencïod ar yr ynys, felly maen nhw'n fwy ac yn gryfach na'u cymheiriaid ar y tir mawr. Serch hynny maent yn ysglyfaeth i adar fel tylluanod, cudyllod coch, bwncathod a hebogiaid.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Skomer Vole". BBC Wales. 24 Mai 2011. Cyrchwyd 10 Mai 2021.