Llygoden bengron goch
Llygoden bengron goch | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Rodentia |
Teulu: | Cricetidae |
Is-deulu: | Arvicolinae |
Genws: | Myodes |
Rhywogaeth: | M. glareolus |
Enw deuenwol | |
Myodes glareolus Schreber, 1780 | |
Dosbarthiad daearyddol |
Mamal bach o drefn y cnofilod (Rodentia) yw Llygoden bengron goch (Myodes glareolus). Mae i'w gael ledled y rhan fwyaf o Ewrop a rhannau o ogledd-orllewin Asia. Mae'n gyffredin yng Nghymru, lle mae ei statws yn "lleiaf o bryder".[1] Mae'n debyg i lygoden y coed a llygoden y tŷ ond mae ganddi gorff dewach a phen crwn gyda chlustiau a llygaid llai yn ogystal ag chynffon flewog fyrrach.
Maen nhw'n byw mewn coetir collddail, glaswelltir, rhostir a thir âr, yn ogystal â gerddi. Maen nhw'n weithgar yn ystod y dydd a'r nos. Fel arfer mae'n bwyta dail, gweiriau, gwreiddiau, blagur, rhisgl, ffrwythau, cnau, grawn a hadau.
Mae rhieni'n magu sawl torllwyth yn ystod tymor. Gallant fyw am hyd at 18 mis.
Mae eu hysglyfaethwyr yn cynnwys llwynogod, gwencïod a thylluanod.
Mae isrywogaeth a geir ar Ynys Sgomer oddi ar arfordir Sir Benfro, sef llygoden bengron Sgomer (Myodes glareolus skomerensis), yn llawer mwy na llygoden bengron y tir mawr.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Bank Vole" Archifwyd 2021-05-10 yn y Peiriant Wayback, Gwefan The Mammal Society; adalwyd 9 Mai 2021