Llyfrgell Ganolog Lerpwl
![]() | |
Math | llyfrgell gyhoeddus ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | William Brown Library and Museum ![]() |
Sir | Dinas Lerpwl ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 19.24405 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53.4098°N 2.9807°W ![]() |
Cod post | L3 8EW ![]() |
Rheolir gan | Cyngor Dinas Lerpwl ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* ![]() |
Manylion | |
Mae Llyfrgell Ganolog Lerpwl yn un o’r llyfrgelloedd mwyaf yn Lloegr. Mae’n sefyll ar Heol William Brown ynghanol Ardal Treftadaeth UNESCO Lerpwl. Ailwampiwyd y llyfrgell yn llwyr yn 2013.[1] Mae Swyddfa Archifau’r ddinas yn y llyfrgell. Mae Wi-fi, cyfrifiaduron ac Xbox 360 ar gael.[2]
Hanes
[golygu | golygu cod]![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/b2/PictonLibrary01LB.jpg/220px-PictonLibrary01LB.jpg)
Lleolir y llyfrgell mewn sawl adeilad ar Heol William Brown. Yr un cyntaf oedd Llyfrgell ac Amgueddfa William Brown, cynlluniwyd gan John Weightman, a chwblhawyd ym 1860, a rhanwyd gyda amgueddfa’r ddinas, adnabyddir erbyn hyn fel Amgueddfa’s Byd Lerpwl.[3] Estynnwyd y llyfrgell ym 1879 a 1906 gan ychwanegu Ystafell ddarllen Picton a Llyfrgell Hornby. Mae’r adeiladau i gyd yn rhestredig (Gradd II) ac adeiladwyd mewn dull clasurol, yn cydymffurfio gyda adeiladau eraill yr heol.
Roedd 750,000 o ymwelwyr i’r amgueddfa yn 2017. Yn 2018, ynillodd y llyfrgell gwobr am Lyfrgell y Flwyddyn.[4]
Ailadeiladu
[golygu | golygu cod]Ym Mai 2008, cyhoeddwyd bod rhai o’r adeiladau’n cael eu dymchel ac adeilader rhai newydd addas i wasanaethau technegol. Addaser adeiladau hanesyddol eraill. Pensaeriau i’r prosiect oedd Austin-Smith:Lord.[5] Dangoswyd eu cynllun i’r cyhoedd ym mis Hydref 2009.[6] Caewyd prif adeilad y llyfrgell ar 23 Gorffennaf 2010, ac oedd gwasanaeth dros dro drws nesaf ar ail lawr Amgueddfa’r Byd Lerpwl[7] Mae gan yr adeilad newydd Atriwm, a chyfres o loriau agored. Ar ben yr atriwm mae cromen wydr, ac mae teras ar y to gyda golygfeydd dros ganol y ddinas. Ail-agorwyd y llyfrgell ar 17 Mai 2013.[8] Mae llwybr ithfaen 72 troedfedd o hyd yn arwain at fynedfa’r llyfrgell, yn cynnwys enwau llyfrau llenyddol enwog.
Grŵp Llyfrgell
[golygu | golygu cod]Mae’r llyfrgell yn aelod o “Libraries Together”, Partneriaeth Dysgu Lerpwl, sy’n rhoi hawliau darllen dros y llyfrgelloedd i gyd i aelodau o bob un ohonynt.[9]
Oriel
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Liverpool's Central Library reopens after £50m facelift". BBC News (yn Saesneg). 17 Mai 2013. Cyrchwyd 22 Tachwedd 2015.
- ↑ Gwefan visitliverpool.com
- ↑ http://www.britishnewspaperarchive.co.uk/viewer/bl/0001316/18601019/037/0007 Evening Mail, 19 Hydref 1860; ‘The Brown Testimonial’; gwelwyd 3 Mawrth 2017
- ↑ Gwefan y Liverpool Express, dyddiad 18 Gorffennaf 2018
- ↑ Gwefan y Liverpool Echo|accessdate=22 November 2015
- ↑ Gwefan y Liverpool Echo
- ↑ "Gwefan Cyngor Lerpwl, adran Llyfrgelloedd ac archifau". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-09-07. Cyrchwyd 2021-08-02.
- ↑ Gwefan BBC
- ↑ Gwefan liverpoollibrariestogether.wordpress.com