Llosgach llaeth

Oddi ar Wicipedia

Perthynas ar sail rhannu llaeth y fron, sydd yn dabŵ mewn sawl diwylliant, yw llosgach llaeth. Ni chanateir priodas rhwng dyn a'i laethfam, nac ychwaith rhwng dyn a menyw a gawsant eu bwydo ar y fron gan yr un laethfam, mewn cymdeithasau Islamaidd. Ceir gwaharddiadau tebyg ymhlith y Mende, y Samariaid, y Coptiaid, Cristnogion yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol, a Phabyddion yr Eidal.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Robert Goldenson a Kenneth Anderson, The Wordsworth Dictionary of Sex (Ware, Swydd Hertford: Wordsworth, 1994), t. 156.