Llofruddiaethau Llandarcy
Llofruddiaethau tair merch ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot ym 1973 oedd Llofruddiaethau Llandarcy. Llofruddiwyd Sandra Newton, Pauline Floyd a Geraldine Hughes ond ni ddarganfuwyd pwy oedd y llofrudd tan 29 mlynedd yn ddiweddarach, pan ddefnyddiwyd tystiolaeth fforensig DNA i ddatrys yr ymchwiliad.
Yn 2002, ar ôl derbyn caniatâd gan y llysoedd, dygwyd corff Joe Kappen o'r fynwent lle cafodd ei gladdu er mwyn cynnal profion fforensig arno. Canfuwyd mai ef oedd yn gyfrifol am farwolaethau'r dair ohonynt.
Cefndir yr achos
[golygu | golygu cod]Ym Medi 1973, aeth Geraldine Hughes a'i ffrind gorau Pauline Floyd i glwb nos "Top Rank" ar Ffordd y Brenin, Abertawe. Er fod y ddwy yn byw saith milltir i ffwrdd, arferai'r clwb ddenu pobl o gryn bellter. Gweithiai'r ddwy mewn ffatri wnïo, gan ennill cyflog o £16 yr wythnos[1] Ar ddiwedd y noson, penderfynodd y ddwy fodio lifft adref. Gwelodd dyn a oedd yn gyrru heibio, Philip O'Connor, gar gwyn yn aros wrth ymyl y ddwy ferch er mwyn rhoi lifft iddynt. Ni chyrhaeddodd y ddwy pen eu taith.
Trannoeth, daeth pensiynwr o hyd i gorff Floyd mewn ardal goediog ger Llandarcy. Roedd hi wedi ei thagu gan raff pum troedfedd o hyd, ac roedd anafiadau difrifol i'w phen.[1] Daethpwyd o hyd i gorff Hughes 50 llath i ffwrdd yn agos i Heol Jersey Marine. Roedd ganddi anafiadau i'w phen ac roedd rhaff pum troedfedd wedi ei thagu hithau hefyd. Er fod y ddwy yn gwisgo dillad, dangosodd ymchwiliad post-mortem fod y ddwy wedi cael eu treisio.
Ymchwiliad yr heddlu
[golygu | golygu cod]Casglwyd ynghyd 150 o dditectifs er mwyn ymchwilio i'r llofruddiaethau, gan wneud yr achos hwn y mwyaf yn hanes Cymru ar y pryd. Arweiniwyd yr ymchwiliad gan y prif uwcharolygydd Ray Allen, a sefydlodd ystafell ymchwiliad yng Ngorsaf Heddlu Sgiwen.
Gan ddefnyddio tystiolaeth llygad-dystiion a oedd wedi gyrru heibio ar y noson, daeth yr heddlu i'r casgliad mai Austin 1100 gwyn oedd car y llofrudd. Dywedwyd fod y car wedi ei barcio wrth y fynedfa i'r goedwig rhwng 1.45 a 2.15 ar y bore Sul hwnnw.[1] Fodd bynnag, ni welodd unrhyw un rif y car.
Ar yr un pryd, gwelwyd cysylltiad posib i lofruddiaeth arall, sef marwolaeth Sandra Newton, merch 16 oed a fodiodd lifft adref ar ôl noson mewn clwb nos yn Llansawel. Dywedwyd ar y pryd fod car Austin 1100 wedi cael ei weld yn gyrru'n gyflym ar yr un noson.
Erbyn canol 1974 fodd bynnag, roedd yr achos wedi tawelu a lleihawyd y nifer o blismyn a oedd yn gweithio ar yr achos oherwydd prin oedd y dystiolaeth a oedd ar ôl a oedd heb ei archwilio. Trosglwyddwyd yr holl ddogfennau yn ymwneud a'r ymchwiliad i orsaf yr heddlu yn Sandfields, Port Talbot gan gynnwys dillad y merched. Cadwyd y dystiolaeth yno am bron i 30 mlynedd er i rai eitemau o bwysigrwydd arbennig fel dillad isaf y merched gael eu trosglwyddo i labordai gwyddoniaeth fforensig y Swyddfa Gartref yng Nghas-gwent.[1]
Yn 1998, datblygwyd prawf fforensig newydd sef y Rhif Copi DNA Newydd a fedrai ddefnyddio'r darn lleiaf o DNA yn unig er mwyn creu proffil ar gyfer y llofrudd. O ganlyniad i hyn, llwyddwyd i greu proffil DNA o lofrudd y merched. Serch hynny, nid oedd y dyn ar y Gronfa Ddata DNA Cenedlaethol.
Ar 16 Mai, 2002 dechrewyd ar y broses o agor bedd Joe Kappen o'r ddaear.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 The hunt for the Saturday Night Strangler The Guardian. Kevin Toolis. 18-01-2003. Adalwyd ar 06-06-2010