Canol Dinas Abertawe

Oddi ar Wicipedia
Canol Dinas Abertawe
Mathardal fusnes Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAbertawe Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6202°N 3.9421°W Edit this on Wikidata
Cod OSSS752904 Edit this on Wikidata
Cod postSA1 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJulie James (Llafur)
AS/auGeraint Davies (Llafur)
Map

Lleolir Canol Dinas Abertawe, yn Ninas a Sir Abertawe, ychydig i ffwrdd o'r Afon Tawe a Bae Abertawe. Mae'n ymestyn dros y rhan fwyaf o Ward y Castell ac ymylon Ward yr Uplands. Serch hyn y mae'n ehangu tua'r dwyrain wrth i hen Dociau Abertawe gael eu hail-ddatblygu'n ardal fusnes a phreswyl gymysg.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Julie James (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Geraint Davies (Llafur).[1][2]

Hanes[golygu | golygu cod]

Bomiwyd canol y ddinas yn ddifrifol ym 1941 yn ystod digwyddiad a gydnabodir bellach fel Y Blitz Tair Noson. Dinistriwyd 41 erw a oedd yn cynnwys 857 o adeiladau yng nghanol y ddinas. Bu'n rhaid i nifer o fusnesau gael eu ad-leoli i gyrion yr ardal a ddinistriwyd. Cymerwyd nifer o flynyddoedd i adfer Abertawe. O ganlyniad i'r hen ardal siopa o amgylch Y Stryd Fawr wedi'i dinistrio, ail-adeiladwyd prif ganolfan siopa o amgylch y Ffordd y Brenin newydd.

Siopa[golygu | golygu cod]

Yng nghalon y ddinas lleolir Marchnad Abertawe, Canolfan Siopa'r Cwadrant a Canolfan Siopa Dewi Sant. Stryd Rhydychen yw prif stryd siopa Abertawe. Dominyddir pen dwyreiniol Stryd Rhydychen gan nifer o gwmnïau cenedlaethol, tra bod pen gorllewinol y stryd yn gartref i nifer o siopau lleol.

Canolfan siopa fodern yw'r Cwadrant a agorwyd ar ddiwedd y 1970au, ond ailwampiwyd y ganolfan yn gyfan gwbl yn y 1990au gyda tho gwydr yn llenwi'r arcedau tywyll cynt â goleuni. Dominyddir y ganolfan gan siopau mawr megis Debenhams a Boots. Lleolir maes parcio aml-lawr i'r de, tra bod Gorsaf Fysiau Abertawe ar ben gorllewinol y ganolfan.

Tu hwnt i faes parcio aml-lawr y Cwadrant y mae archfrachnad Tesco a'i faes parcio ei hun. Hen safle'r gweithfeydd nwy yw hwn, ond ail-ddatblygwyd y darn o dir erbyn y flwyddyn 2000 wrth i Tesco adleoli o'i gyn-safle ar Ffordd y Brenin o dan hen sinema'r Odeon.

Cynhelir marchnadoedd agored ar strydoedd canol y ddinas yn bennaf yn ystod tymor y Nadolig, ar hyd Stryd Rhydychen, Ffordd y Dysysoges a Sgwâr y Castell.

Y Stryd Fawr a Stryd y Castell[golygu | golygu cod]

Arferai’r Stryd Fawr fod yn un o brif strydoedd siopa Abertawe. Dinistriwyd rhannau helaeth ohoni yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Saif Castell Abertawe ar ben deheuol y ddwy stryd hyn, gyferbyn â Sgwâr y Castell a ailwampiwyd yn ystod y 1990au wrth i slabiau carreg Efrog a ffynnon ddŵr ddod at ei gilydd er mwyn ffurfio amffitheatr er mwyn disodli’r ardd ddiarffordd gynt a warthnodwyd yn ardal beryglus o dorcyfraith. Ar ben arall y stryd y mae Gorsaf Drenau Abertawe a Gwesty’r Grand. Masnachwyr preifat, ychydig dafarndai, bwytai a mannau gwerthu bwyd sydyn sydd rhwng yr orsaf a’r castell, yn llenwi adeiladau a oedd yn gartrefi i gwmnïau cenedlaethol gynt megis Littlewoods, Woolworths, W.H. Smith a Comet.

Ffordd y Brenin[golygu | golygu cod]

Ffordd ddeuol oedd Ffordd y Brenin gan redeg o Ffordd Sain Helen yn y gorllewin i Ffordd y Dywysoges yn y dwyrain ar hyd cyrion gogleddol canol y ddinas.

Cyn i Stryd y Gwynt droi yn y brif gyrchfan ar gyfer digwyddiadau’r nos, Ffordd y Brenin oedd wrth galon y cyffro. Tra bod nifer o’r bariau’n cau o ganlyniad i gystadleuaeth â Stryd y Gwynt, y mae Ffordd y Brenin dal yn gartref i glybiau nos fwyaf Abertawe. Yn ogystal â chlybiau nos, y mae nifer o fanciau, siopau, mannau gwerthu bwyd sydyn a changen o’r YMCA ar hyd Ffordd y Brenin. Arferai prif Swyddfa’r Post Abertawe fod ar y stryd hon cyn iddi symud i W.H. Smith yng Canolfan Siopa’r Cwadrant serch y gwrthwynebiad.

Ad-drefnwyd Ffordd y Brenin yn 2006 er mwyn ei thoi’n stryd unffordd tua’r gorllewin. Mae’r ddwy lôn ddeheuol bellach ar gyfer bysiau i deithio yn y naill gyfeiriad fel rhan o ddatblygiad ar y cyd â First Cymru i greu Metro Abertawe. Mae’r tanlwybrau a’r hen gylchfan ar ben dwyreiniol y stryd y tu fas i Gwesty’r Ddraig bellach wedi diflannu gyda goleuadau traffig a phalmentydd llydan yn eu lle.

Ffordd y Dywysoges[golygu | golygu cod]

Arferai Ffordd y Dywysoges fod yn ffordd ddeuol tan y 1990au pan ad-drefnwyd system ffyrdd Abertawe unwaith eto er mwyn gwneud y ddinas yn fwy addas ar gyfer cerddwyr. Mae’n rhedeg o Heol Ystumllwynarth yn y de i gylchfan Ffordd y Brenin ar hyd cyrion dwyreiniol canol y ddinas.

Yn ystod y 1990au, caewyd rhan uchaf y ffordd er mwyn gwella canol y ddinas ar gyfer cerddwyr wrth i Sgwâr y Castell gael ei ddatblygu a’i ymestyn allan dros Ffordd y Dywysoges. Ni newidiwyd rhan gwaelod yr heol tan 2005 pan gafodd ddisodlwyd dwy lôn wrth i’r palmant dwyreiniol gael ei lledu i ganol yr heol er mwyn gwella hygyrchedd i gerddwyr rhwng canol y ddinas a’r glannau.

Mae rhan uchaf yr heol bellach yn cael ei datblygu wrth i ganolfan siopa tri llawr newydd gael ei chodi ar safle’r hen siop David Evans (House of Fraser).

Dolenni Cyswllt[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014