Llinyn y bogail
Mewn mamaliaid sy'n dod mewn brych (neu 'placenta'), mae llinyn y bogail (neu'r funiculus umbilicalis) yn bibell sy'n cysylltu'r babi yn y groth i frych y fam. Mae'n datblygu o'r un sygot â'r babi ei hun ac mae ynddo ddwy rydweli sef y rhydweliau ymbilical ac un wythien sef y wythien ymbilical.
Mae'r wythien ymbilical yn cario gwaed llawn ocsgien o frych y fam i'r babi. Mae'r gwrthwyneb hefyd yn digwyd, sef fod y rhydweli ymbilical yn cario gwaed di-ocsigen, diniwtrient.
Mae'r croen lle câi'r llinyn ei dorri'n gadael craith a elwir yn fotwm bol.