Botwm bol

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Глубокий пупок.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o endid anatomegol Edit this on Wikidata
Mathcraith, subdivision of abdomen, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Rhan oAbdomen Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ombelico it.jpg
Botwm bol merch

Yn y byd meddygol y bogail yw'r enw cywir am y botwm bol, sef craith a leolir ar yr abdomen ychydig uwch na'r Mons Veneris. Achoswyd y graith pan dorrwyd llinyn y bogail ar enedigaeth y babi. Mae gan bob mamal brychol fotwm bol, er nad yw mor amlwg yn y rhan fwyaf o anifeiliaid ag ydyw mewn dyn. Yn yr erthygl hon byddwn yn edrych arno fel craith allanol. Ceir mwy o drafodaeth ar fioleg llinyn y bogel mewn erthygl arall.

Mae'r graith, mewn bodau dynol, yn bant eithaf dwfn, ond ar adegau mae'r graith yn ymwthio allan. Yn wir, mae ffurf a maint a siâp botymau bol yn amrywio'n fawr. Gan nad oes ganddyn nhw ddim byd i'w wneud â geneteg, fe ddefnyddir eu siâp a'u maint er mwyn adnabod gefeilliaid newydd anedig.