Llabed y pin
Pine-tree Lappet Dendrolimus pini | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Lasiocampidae |
Genws: | Dendrolimus |
Rhywogaeth: | D. pini |
Enw deuenwol | |
Dendrolimus pini (Linnaeus, 10ed rhifyn o Systema Naturae,1758 |
Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw llabed y pin, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy llabedau'r pin; yr enw Saesneg yw Pine-tree Lappet, a'r enw gwyddonol yw Dendrolimus pini.[1] Mae i'w ganfod yn y rhan fwyaf o Ewrop a draw i Ddwyrain Asia.
45–70 mm ydy lled yr adenydd ac mae'n hedfan rhwng Mehefin ac Awst.
Bwyd
[golygu | golygu cod]Fel mae ei enw'n awgrymu, mae'n hoff iawn o wahanol goed pin: Pinus sylvestris gan mwyaf ond hefyd gweddill teulu'r , Pinus yn enwedig Picea abies ac Abies alba.
Cyffredinol
[golygu | golygu cod]Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r llabed y pin yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Galeri luniau
[golygu | golygu cod]-
Siani flewogs yn deor o'r wyau
-
Siani flewog (neu larfa)
-
Cwd crisialis (chwiler)
-
Darlun o lyfr John Curtis: British Entomology, Cyfrol 5
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.