Lisa Fearn

Oddi ar Wicipedia
Lisa Fearn

Awdur o Gaerfyrddin yw Lisa Fearn.

Dros y blynyddoedd bu'n gweithio ym myd bancio ac ym myd addysg.

Yna, ymgartrefodd Lisa gyda'i theulu yn ôl yn Sir Gâr, ar Fferm Allt y Gog, lle sefydlodd ysgol arddio a choginio i blant, sef The Pumpkin Patch.

Erbyn hyn, mae hi wedi dysgu miloedd o blant i dyfu a choginio eu bwyd eu hunain (ac wedi dysgu ambell riant hefyd).

Mae Lisa'n golofnydd gyda'r Carmarthen Journal. Mae hi'n westai cyson ar Radio Cymru a Radio Wales, ac yn gogydd ar raglen Prynhawn Da, S4C, hefyd.

Mae gan Lisa ddiddordeb mawr ym mhŵer cymdeithasol bwyd.

Hi yw awdur llyfr Blas/ Taste a Dathlu/ Celebrate - a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "www.gwales.com - 9781785621741, Blas - Dathlu Bwyd a Theulu / Taste - A Celebration of Food and Family". www.gwales.com. Cyrchwyd 2020-01-10.