Lindsay Whittle
| Lindsay Whittle | |
| |
| Deiliad | |
| Cymryd y swydd 23 Hydref 2025 | |
| Rhagflaenydd | Hefin David |
|---|---|
| Cyfnod yn y swydd 6 Mai 2011 – 5 Ebrill 2016 | |
| Geni | Mawrth 1953 Caerffili |
| Plaid wleidyddol | Plaid Cymru |
| Alma mater | Prifysgol Caerdydd |
| Galwedigaeth | Gwleidydd |
Gwleidydd o Gymru yw Lindsay Geoffrey Whittle (ganwyd Mawrth 1953). Mae'n aelod o Blaid Cymru ac yn Aelod o'r Senedd dros Gaerffili ers 23 Hydref 2025.[1] Roedd yn Aelod o'r Cynulliad cyn hynny rhwng 2011 a 2016. Mae'n gynghorydd yn ardal Penyrheol ers 1976.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd Whittle yng Nghaerffili ac mae'n byw yn Abertridwr, Caerffili.
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Mae wedi cynrychioli ardal Penyrheol fel cynghorydd yn barhaus ers 1976.[2][3][4] Ef oedd arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili o 1998 hyd 2004, ac o 2008 hyd 2011. Roedd yn un o bedwar Aelod Cynulliad dros rhanbarth Ddwyrain De Cymru rhwng 2011 a 2016.[5]
Dywedodd, cyn ennill sedd Is-etholiad Caerffili 2025 fod y frwydr am y sedd "yn frwydr dros Gymru" a rhybuddiodd fod llawer o'r wybodaeth gan blaid Reform yn anghywir. Ei nod fel Aelod o'r Senedd, meddai oedd cael Senedd “sy’n gwrando”.[6] Cafodd 15,961 o bleidleisiau: 3,848 yn fwy o bleidleisiau na Reform a ddaeth yn ail; 3,713 pleidlais gafodd y Blaid Lafur, a oedd wedi dal y sedd ers y 1910au.[7]
Ef hefyd yw llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Gydraddoldeb, Diogelwch Cymunedol a Chyfiawnder Cymdeithasol.[8]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Caerphilly by-election won by Plaid Cymru as Labour loses seat for first time". BBC News (yn Saesneg). 2025-10-24. Cyrchwyd 2025-10-24.
- ↑ "Caerphilly County Borough Council Election Results 1995-2012" (PDF). electionscentre.co.uk. Cyrchwyd 2025-09-12.
- ↑ "Caerphilly County Borough Council Elections 2017". caerphilly.gov.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2024-09-12. Cyrchwyd 2025-09-12.
- ↑ "Caerphilly County Borough Council Elections 2022". caerphilly.gov.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-12-02. Cyrchwyd 2025-09-12.
- ↑ "Rhymney Valley". South Wales Argus. 1976-05-07. t. 9. Cyrchwyd 2025-09-12 – drwy Newspapers.com.
- ↑ "Lindsay Whittle: 'Is-etholiad Caerffili yn frwydr dros Gymru'". Golwg360. 2025-10-10. Cyrchwyd 2025-10-24.
- ↑ "Lindsay Whittle o Blaid Cymru yn ennill isetholiad Caerffili". BBC Cymru Fyw. 2025-10-24. Cyrchwyd 2025-10-24.
- ↑ "Lindsay Whittle - Plaid Cymru". plaidcymru.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-04-15. Cyrchwyd 2025-09-12.
| Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: Veronica German |
Aelod Cynulliad dros Ddwyrain De Cymru 2011 – 2016 |
Olynydd: David Rowlands |
| Senedd Cymru | ||
| Rhagflaenydd: Hefin David |
Aelod o'r Senedd dros Caerffili 2025 – |
Olynydd: deiliad |