Lida Gustava Heymann

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Lida Gustava Heymann
Bundesarchiv Bild 146-1987-143-05, Lida Gustava Heymann.jpg
Ganwyd 15 Mawrth 1868, 1868 Edit this on Wikidata
Hamburg Edit this on Wikidata
Bu farw 31 Gorffennaf 1943, 1943 Edit this on Wikidata (75 oed)
Zürich Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Yr Almaen Yr Almaen
Galwedigaeth newyddiadurwr, ysgrifennwr, gweithredydd heddwch Edit this on Wikidata

Awdures o'r Almaen a'r Swistir oedd Lida Gustava Heymann (15 Mawrth 1868 - 31 Gorffennaf 1943) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr, heddychwr ac ymgyrchydd dros heddwch.

Fe'i ganed yn Hamburg, yr Almaen ar 15 Mawrth 1868; bu farw yn Zürich, Swistir ac fe'i claddwyd ym Mynwent Fluntern. [1][2][3]

Roedd Lida Gustava Heymann yn un o ffeministiaid mwyaf blaenllaw mudiad menywod ymhlith uchelwyr yr Almaen, yn enwedig y Cymdeithas Grwpiau Menywod (Almaeneg: Verband Fortschrittlicher Frauenvereine), law yn llaw gyda'i phartner Anita Augspurg. Yn wir, yn 1902, gydag Anita sefydlodd, ar droad y ganrif, gymdeithas etholfraint, er mwyn ymgyrchu dros yr hawl i ferched bleidleisio: Cymdeithas yr Almaen dros Hawliau Pleidleisio i Fenywod (Almaeneg: Deutscher Verband für Frauenstimmrecht). Hyd at y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd y ddwy wedi dylanwadu'n drwm ar y mudiad etholfraint menywod yr Almaen. [4]

Yn Hamburg, cyn troad y ganrif, roedd eisoes wedi sefydlu canolfan merched gydag arian a etifeddodd gan ei theulu, canolfan a oedd yn cynnig cinio i fenywod sy'n gweithio, yn ogystal â meithrinfa ddydd, i fabanod, a chanolfan gwnsela. Yn ddiweddarach daeth yn gyd-sylfaenydd ysgol uwchradd gymysg a chymdeithasau proffesiynol sefydledig ar gyfer gweithwyr masnachol benywaidd ac ar gyfer artistiaid llwyfan.

Fel cyd-sylfaenydd y mudiad gwahardd alcohol yn yr Almaen, daeth wyneb-yn-wyneb â'r gyfraith pan fu'n protestio yn Hamburg yn erbyn trin puteiniaid ac ymgyrchodd yn erbyn puteindra gan y wladwriaeth. Gydag Anna Pappritz yn Berlin, sefydlodd gangen o'r Ffederasiwn Diddymwyr Rhyngwladol, yn Hamburg.

Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n aelod o Bwyllgor Rhyngwladol Menywod dros Heddwch Parhaol am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • In Brühl (Rheinland) ist eine Straße nach Heymann benannt.<ref>[1] [2]>
  • Die Stadt Zürich ließ auf dem Friedhof Fluntern zu Ehren von Heymann und Augspurg am 20.
  • Augspurg-Heymann-Preis der Landesarbeitsgemeinschaft Lesben in Nordrhein-Westfalen von 2009 bis 2015


Rhai cyhoeddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Llyfryn Hawl Cyfartal, pleidlais fer. Deffrwch i'ch merched Almaenaidd o bob dosbarth o bob plaid! (1907; Gleiches Recht, Frauenstimmrecht. Wacht auf Ihr deutschen Frauen aller Stände aller Parteien!) Cymdeithas yr Almaen dros Hawliau Pleidleisio i Fenywod, a ysgrifennwyd gan Lida Gustava Heymann
  • Das kommunale Wahlrecht der Frauen im Deutschen Reiche. Kastner und Callwey Verlag, München 1910.
  • Wird die Mitarbeit der Frauen in den politischen Männerparteien das Frauenstimmrecht fördern? Dietrich Verlag, Leipzig 1911.
  • Frauenstimmrecht und Völkerverständigung. Leipzig 1919.
  • Erlebtes - Erschautes. Deutsche Frauen kämpfen für Freiheit, Recht und Frieden, 1850-1940 ; ISBN=3927164437

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol, dynodwr VIAF 39505624, https://viaf.org/, adalwyd 4 Tachwedd 2018Wikidata Q54919 Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Professionell/Standardisierung/GND/gnd_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Professionell/Standardisierung/GND/gnd_node.html, adalwyd 24 Ebrill 2014Wikidata Q36578
  2. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Professionell/Standardisierung/GND/gnd_node.html Gemeinsame Normdatei, GND 118704524, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Professionell/Standardisierung/GND/gnd_node.html, adalwyd 13 Awst 2015Wikidata Q36578
  3. Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Professionell/Standardisierung/GND/gnd_node.html Gemeinsame Normdatei, GND 118704524, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Professionell/Standardisierung/GND/gnd_node.html, adalwyd 13 Awst 2015Wikidata Q36578
  4. Man gwaith: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Professionell/Standardisierung/GND/gnd_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Professionell/Standardisierung/GND/gnd_node.html, adalwyd 1 Ebrill 2015Wikidata Q36578