Lewis Boddington
Gwedd
| Lewis Boddington | |
|---|---|
| Ganwyd | 13 Tachwedd 1907 |
| Bu farw | 7 Ionawr 1994 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | dyfeisiwr |
Dyfeisydd o Gymru oedd Lewis Boddington (13 Tachwedd 1907 – 7 Ionawr 1994), a ddyfeisiodd y bwrdd hedfan onglog ar gyfer llongau cludo awyrennau. Cyfranodd yn helaeth at gynllunio llongau megis yr Ark Royal, rhai ohonynt ar y cyd ag Unol Daleithiau America.[1]
Bu'n gweithio am flynyddoedd o Farnborough yn Hampshire, De-ddwyrain Lloegr, gan ddatblygu bwrdd llong a gludai awyrennau rhyfel, gan gynnwys bwrdd a alluogai i awyren heb olwynion glanio arni.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ The Angled Deck Story (DRFC's own account). Dennis Royle Farquharson Campbell.
- ↑ How the Royal Navy changed US naval aviation; adalwyd 3 MAi 2018.