Leonberg
Gwedd
Sgwâr y Farchnad. | |
Math | bwrdeistref trefol yr Almaen, tref ardal mawr Baden-Württemberg |
---|---|
Poblogaeth | 49,845 |
Pennaeth llywodraeth | Bernhard Schuler |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Neukölln, Belfort, Rovinj, Bad Lobenstein |
Daearyddiaeth | |
Sir | Böblingen district |
Gwlad | Yr Almaen |
Arwynebedd | 48.74 km² |
Uwch y môr | 386 metr |
Cyfesurynnau | 48.8014°N 9.0131°E |
Cod post | 71229 |
Pennaeth y Llywodraeth | Bernhard Schuler |
Tref yn nhalaith Baden-Württemberg yn ne-orllewin yr Almaen yw Leonberg a saif rhyw ddeng milltir i orllewin Stuttgart.
Mae Leonberg yn denu nifer o dwristiaid am ei phensaernïaeth hanesyddol, gan gynnwys Sgwâr y Farchnad a'i thai ffrâm bren, Castell Leonberg, ac olion mynachlog Urdd Sant Ffransis. Ganwyd yr athronydd Friedrich Schelling yma.
Enwir y brîd o gi Leonberger ar ôl y dref. Cafodd ei fridio yn y 1840au drwy groesi Ci Sant Bernard a Chi Newfoundland, mewn ymgais i greu ôl-groesiad o Gi Mynydd y Pyreneau a oedd yn edrych yn debyg i'r llew a ymddengys ar arfbais Leonberg.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Denise Flaim, "Leonberger History: The “Secret Mascot” of Leonberg", American Kennel Club (10 Mehefin 2020). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 26 Tachwedd 2021.