Leo I
| Leo I | |
|---|---|
| Ganwyd | c. 401 Thrace |
| Bu farw | 19 Ionawr 474 Caergystennin |
| Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Fysantaidd |
| Galwedigaeth | gwleidydd, person milwrol |
| Swydd | seneddwr Rhufeinig, Ymerawdwr Bysantaidd |
| Priod | Verina |
| Plant | Ariadne, Leontia Porphyrogenita |
| Llinach | Llinach Leo |
Ymerawdwr Bysantaidd o 457 hyd 474 oedd Flavius Valerius Leo neu Leo I (401 - 18 Ionawr 474), Ef oedd yr olaf o gyfres o ymerodron a osodwyd ar yr orsedd gan y cadfridog Alanaidd Aspar.
Coronwyd Leo ar 7 Chwefror 457, y tro cyntaf i'r ymerawdwr gael ei goroni gan Batriarch Caergystennin. Gwnaeth Leo gynghrair a'r Isawriaid, gan briodi ei ferch i'w harweinydd Tarasicodissa, a olynodd Leo fel yr ymerawdwr Zeno yn ddiweddarach. Trwy'r cynghrair yma, gallodd ddod yn rhydd o reolaeth Aspar.
Bu'n ymladd llawer yn erbyn y Gothiaid dwyreiniol a'r Hyniaid. Apwyntiodd Anthemius yn ymerawdwr yn y gorllewin yn 467. Dechreuodd ymgyrch yn erbyn y Fandaliaid yn 468, ond fe'i gorchfygwyd oherwydd brad ei frawd-yng-nghyfraith Basiliscus.
Magwyd Theodoric Fawr, arweinydd y Gothiaid, yn llys Leo yng Nghaergystennin.