Leni Tiwdor

Oddi ar Wicipedia
Leni Tiwdor
AwdurEuron Griffith
CyhoeddwrY Lolfa
GwladCymru
IaithCymraeg
ArgaeleddAr gael
ISBN9781847717252
GenreFfuglen

Nofel gyfoes gan Euron Griffith yw Leni Tiwdor a gyhoeddwyd yn 2013 gan Y Lolfa. Man cyhoeddi: Tal-y-bont, Cymru.[1]

Stori 'dditectif' yw Leni Tiwdor. Ond stori dditectif anarferol. A chanddi arwr anarferol. A dweud y gwir, dyw e fawr o arwr o gwbwl.

Dyma ail nofel Euron Griffith, yr awdur o Gaerdydd. Cafodd ei nofel gyntaf ganmoliaeth uchel gan feirniaid a darllenwyr. Mae’'n ceisio adleisio arddull sgrifenwyr poblogaidd fel Nick Hornby a'’r Americanwr, Richard Brautigan.

Cyhoeddodd storïau byrion yn y llyfrau Sing Sorrow Sorrow (Seren) ac In My Life: Encounters With the Beatles (Fromm International, Efrog Newydd) ochr yn ochr â gwaith gan Leonard Bernstein, Philip Larkin a Tom Wolfe. Sgriptiodd i nifer o raglenni teledu S4/C, a chyhoeddwyd ei gerddi yn Poetry Wales. Mae'’n gitarydd i fand Y Soda Men. Dangoswyd ei waith celf yn y Walker Gallery, Lerpwl.


Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017.