Lena Hades
Lena Hades | |
---|---|
Ganwyd | 2 Hydref 1959 Kemerovo |
Dinasyddiaeth | Rwsia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, ysgrifennwr |
Adnabyddus am | Also sprach Zarathustra |
Gwefan | http://www.lenahades.co.uk/ |
Awdures o Rwsia yw Lena Hades (Rwsieg: Лена Алексеевна Хейдиз; ganwyd 2 Hydref 1959) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel arlunydd. Mae ei theulu o darddiad Iddewig. Fe'i cysylltir yn gryf gyda'r llyfr: Hefyd Siaradodd Zarathustra gan Friedrich Nietzsche (1844 – 1900).
Fe'i ganed yn Kemerovo ac wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol y Wladwriaeth, Moscaw.
Magwraeth a marwolaeth ei thad
[golygu | golygu cod]Ganwyd Lena Hades yn Siberia, tra roedd ei thad ar daith gyda'i waith, ar ddiwrnod diffyg ar yr haul llawn, 2 Hydref 1959. Roedd ei thad yn gweithio fel peiriannydd cyfathrebu ac roedd ei mam yn feddyg. Yn 35 oed aeth ei thad yn sâl â sglerosis ymledol a bu farw yn 51 oed. Yn y cyfnod o salwch cymerodd Lena, ei ferch, ofal ohono tan ddiwrnod ei farwolaeth, 17 Ionawr 1985. Cafodd yr atgofion am ei thad a'i fywyd trasig effaith fawr ar Lena. Clefyd y tad a ysgogodd ei diddordeb yn y cysyniad o farwolaeth, a hefyd ym mhroblemau athronyddol bodolaeth - prif bynciau ei gweithiau creadigol.[1]
Coleg
[golygu | golygu cod]Graddiodd Lena Hades o Brifysgol Addysgeg y Wlad, Moscfa ym 1982 (Cyfadran Ffiseg a Mathemateg), a chwblhaodd gyrsiau iaith dramor uwch hefyd (Sbaeneg, Eidaleg, Pwyleg, Ffrangeg, Almaeneg, Saesneg), gan weithio fel cyfieithydd am nifer o flynyddoedd.
Yr arlunydd
[golygu | golygu cod]Yn 35 oed, penderfynodd ddod yn arlunydd, ac ym 1995 gadawodd am yr Almaen. Yno, yn Gwlen creodd ei gweithiau celf cyntaf gan werthu ei llun cyntaf.[1] Ym 1995–1997 creodd fwy na 30 o baentiadau, wedi'u neilltuo i Also sprach Zarathustra: Ein Buch für Alle und Keinen, (cyfieithiad Saesneg: "Thus Spoke Zarathustra") gan Nietzsche. Iddi hi, trosiadau gweledol yw ei gwaith, nid darluniau'n unig.[2]
Mae'r gyfres o baentiadau "Felly y Siaradodd Zarathustra" yn unigryw, "gan nad oes cynrychiolaeth fwy pwerus, darluniol, clir a chywir o ymadroddion aphoristig yn y byd na'r un hon", yn ôl y beirniaid celf.[3] Yn 1997 arddangoswyd y paentiad olew a'r casgliad hyn yn Sefydliad Athroniaeth Academi Gwyddorau Rwsia. Yn 2004 cyhoeddodd Academi Gwyddorau Rwsia rifyn dwyieithog o "Felly y Siaradodd Zarathustra" gan Nietzsche - yn Rwsieg ac Almaeneg. Mae clawr a siaced y llyfr wedi'u haddurno â dau lun gan Lena Hades. Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys ugain o weithiau eraill o'r cylch hwn. Mae ei phaentiadau heddiw i'w gweld mewn casgliadau yn Amgueddfa Celf Fodern Moscaw, Amgueddfa celf gyfoes Igor Markin, Amgueddfa Pushkin, Oriel y Wladwriaeth Tretyakov a mannau eraill.
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Встреча с Леной Хейдиз [Artists: Lena Hades] (yn Rwseg). Site Nietzsche.ru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Tachwedd 3, 2011. Cyrchwyd Hydref 15, 2003. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Так (не) говорил Заратустра – параллельная программа 1 Московской биеннале [Artists: Lena Hades] (yn Rwseg). Museums News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Chwefror 2005. Cyrchwyd 2005-02-03. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Так (не) говорил Заратустра – параллельная программа 1 Московской биеннале [Artists: Lena Hades] (yn Rwseg). Museums News. Cyrchwyd 2005-02-03.