Legally Blonde (sioe gerdd)
Gwedd
| Enghraifft o: | gwaith drama-gerdd |
|---|---|
| Cymeriadau | Elle Woods, Emmett Forrest, Paulette, Professor Callahan, Warner Huntington III, Vivienne Kensington, Shandi/Brooke Wyndham, Serena, Margot, Pilar, Kate/Chutney, Grandmaster Chad/Dewey/Kyle, Veronica/Enid |
| Libretydd | Heather Hach |
| Lleoliad y perff. 1af | Golden Gate Theatre |
| Dyddiad y perff. 1af | 23 Ionawr 2007 |
| Cyfansoddwr | Laurence O'Keefe |
| Dynodwyr | |
Sioe gerdd a ysgrifennwyd ac a gyfansoddwyd gan Laurence O'Keefe a Nell Benjamin yn seiliedig ar lyfr gan Heather Hach ydy Legally Blonde. Seiliwyd y stori ar y nofel Legally Blonde gan Amanda Brown ac ar y ffilm o 2001 o'r un enw. Adrodda hanes Elle Woods, merch sy'n mynd i Ysgol y Gyfraith, Harvard er mwyn ad-ennill ei chyn-gariad Warner. Tra yno, mae'n darganfod sut gall ei gwybodaeth am y gyfraith gynorthwyo pobl eraill, a llwydda i amddiffyn hyfforddwr cadw'n heini o'r enw Brooke Wyndham mewn achos llys am lofruddiaeth.