Lanús
Jump to navigation
Jump to search
![]() | |
Math |
dinas, dinas fawr ![]() |
---|---|
| |
Poblogaeth |
459,263 ![]() |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser |
UTC−03:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Lanús Partido ![]() |
Gwlad |
![]() |
Uwch y môr |
9 ±1 metr ![]() |
Cyfesurynnau |
34.7°S 58.4°W ![]() |
![]() | |
Prif ddinas weinyddol rhanbarth Lanús Partido, yn Nhalaith Buenos Aires, yr Ariannin, yw Lanús. Fe'i lleolir ychydig i'r de o'r brifddinas, yng ngogledd-orllewin y wlad. Gorwedd y ddinas ychydig i'r de o Buenos Aires, prifddinas yr Ariannin. Yn y cyfrifiad diweddaraf, cofnodwyd poblogaeth o 459,263.
Yn ganolfan ddiwydiannol fawr, mae'r ddinas yn cael ei gwasanaethu gan reilffyrdd cludo nwyddau a theithwyr. Mae gan y ddinas sawl diwydiant: nwyddau cemegol, arfau, tecstilau, papur, lledr a rwber, diwydiannau gwifren, dillad, olew, yn ogystal â thanerdai, caniau llysiau a ffrwythau. Mae nifer o ysgolion technegol wedi'u lleoli yn y ddinas, a Chanolfan Feddygol Eva Perón, un o'r rhai mwyaf yn ardal Buenos Aires Fwyaf.
Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]
- Diego Maradona, cyn-bêl-droediwr rhyngwladol a rheolwr presennol tîm pêl-droed cenedlaethol yr Ariannin, a aned yn Lanús ar y 30ain Hydref 1960.