La fille du régiment

Oddi ar Wicipedia
La fille du régiment
Enghraifft o'r canlynolgwaith drama-gerdd Edit this on Wikidata
Gwladyr Eidal Edit this on Wikidata
IaithFfrangeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1840 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1840 Edit this on Wikidata
Genreopéra comique, opera Edit this on Wikidata
Cymeriadaucorporal, notari, gwerinwr, Y Sarsiant Sulpice, Y Dduges Crakentorp, Yr Ardalyddes Berkenfield, Hortensius, Marie, Tonio, milwyr Ffrengig Edit this on Wikidata
LibretyddJules-Henri Vernoy de Saint-Georges, Jean-François Bayard Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afOpéra-Comique Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af11 Chwefror 1840 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithTirol Edit this on Wikidata
CyfansoddwrGaetano Donizetti Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae La fille du régiment (Merch y Gatrawd) yn opéra comique mewn dwy act gan Gaetano Donizetti, wedi'i gosod i libreto Ffrengig gan Jules-Henri Vernoy de Saint-Georges a Jean-François Bayard. Cafodd ei pherfformio gyntaf ar 11 Chwefror 1840 gan y Paris Opéra-Comique yn y Salle de la Bourse. Ysgrifennodd Donizetti'r opera tra roedd yn byw yn Paris rhwng 1838 a 1840 wrth baratoi fersiwn adolygiadol o'r opera Eidaleg oedd heb ei pherfformio, Poliuto, fel Les martyrs ar gyfer Paris Opéra. Roedd Martyrs wedi'i gohirio, ac roedd gan y cyfansoddwr amser i gyfansoddi'r gerddoiaeth ar gyfer La fille du régiment, ei opera gyntaf wedi'i gosod i destun Ffrengig, yn ogystal â llwyfannu fersiwn Ffrengig Lucia di Lammermoor fel Lucie de Lammermoor. Roedd La fille du régiment yn llwyddiannus iawn, yn ddiolch rhannol i'r aria enwog "Ah! mes amis, quel jour de fête!", sy'n gofyn i'r tenor i ganu wyth C uchel. Cafodd fersiwn Eidaleg o'r opera, La figlia del reggimento, (wedi'i chyfiethu gan Calisto Bassi) wedi'i addasu ar gyfer hoffter y cyhoedd Eidaleg.

Hanes perfformio[golygu | golygu cod]

Perfformiad cyntaf Opéra-Comique[golygu | golygu cod]

Fe wnaeth y noson agoriadol 'dim ond bron ag osgoi trychineb'.[1] Yn ôl sôn, roedd y prif denor yn aml allan o diwn.[2] Dywedpdd tenor Ffrengig Gilbert Duprez yn hwyrach yn ei Souvernirs d'un chanteur: "Fe wnaeth Donizetti'n aml cyfaddef sut wnaeth ei hunan-hyder fel cyfansoddwr wedi'i niwedio ym Mharis. Ni chafodd ei drin yno fel y dylai yn ôl ei rinweddau. Gwelais i'r camlwyddiant, bron i ddymchwel, La fille du régiment".[3][4] Derbyniodd beirniad negatif iawn gan y beirniad a chyfansoddwr Ffrengig Hector Berlioz (Journal des débats, 16 Chwefror 1840), a wnaeth halwio ni ellir ei gymryd o ddifrif gan y cyhoedd neu'r cyfansoddwr, er wnaeth Berlioz gyfaddef roedd y gerddoriaeth ' y wals sy'n ymddwyn fel yr entr'acte a'r triawd dialogué... yn bod ag eisiau naill ai bywiogrwydd neu ffresni."[5]

Cymeriadau[golygu | golygu cod]

Cymeriad Llais
Marie, vivandière soprano coloratura
Tonio, Tyrol ifanc tenor
Y Sarsiant Sulpice bas
Yr Ardalyddes Berkenfield contralto
Hortensius, gwas bas
Corporal bas
Gwerinwr tenor
Y Dduges Crakentorp rhan llafar
Notari rhan llafar
Milwyr Ffrengig, popbl Tyrol, gweision y Duges

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. William Ashbrook (1982). Donizetti and His Operas. Cambridge: Cambridge University Press. ISBN 0-521-23526-X, p. 146. Saesneg gwreiddiol: "a barely averted disaster."
  2. Ashbrook 1982, p. 651, note 45.
  3. Gilbert Duprez, Souvenirs d'un chanteur, 1880, p. 95 (at the Internet Archive).
  4. Quoted and translated by Ashbrook 1982, p. 146 "Donizetti often swore to me how his self-esteem as a composer had suffered in Paris. He was never treated there according to his merits. I myself saw the unsuccess, almost the collapse, of La fille du régiment."
  5. Ashbrook 1982, p. 146. "the little waltz that serves as the entr'acte and the trio dialogué ... lack neither vivacity nor freshness."