Kōyasan

Oddi ar Wicipedia
Kōyasan
Mathcadwyn o fynyddoedd, mynydd sanctaidd, basin, dinas sanctaidd, ōaza, sangō Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 810 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolKōya-Ryūjin Quasi-National Park Edit this on Wikidata
Rhan o'r canlynolSacred Sites and Pilgrimage Routes in the Kii Mountain Range Edit this on Wikidata
SirKōya Edit this on Wikidata
GwladBaner Japan Japan
Uwch y môr1,000 metr, 885 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau34.2178°N 135.5833°E Edit this on Wikidata
Cod post648-0211 Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddKii Mountains Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethrhan o Safle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganKūkai Edit this on Wikidata
Manylion
Konpon Daitō, ger pwynt uchaf Kōyasan
Okunoin, ger Kōyasan

Mynydd sanctaidd yn ardal Wakayama i'r de o Osaka yn Japan yw Kōyasan neu Kōya-san (Japaneg: 高野山 Kōya-san, "Mynydd Kōya").

Sefydlodd y mynach Kūkai fynachlog yno yn 816 sydd wedi tyfu i fod yn bencadlys Shingon, un o enwadau Bwdhaeth Japan. Mae'r mynydd yn gorwedd dros 1000 m i fyny ac mae ganddo wyth gopa. Ar ei lethrau mae tref Koya wedi tyfu, gyda phrifysgol astudiaethau crefyddol a tua 120 o demlau, gyda nifer ohonynt yn cynnig lletygarwch i bererinion ac ymwelwyr.

Ymhlith y lleoedd o nod ar y mynydd ceir:

  • Okunoin (奥の院), y fynwent fwyaf yn Japan, lle ceir beddrod Kūkai yng nghanol y goedwig
  • Danjōgaran (壇上伽藍)
    • Konpon Daitō (根本大塔), pagoda sy'n nodi canolbwynt mandala sy'n cynnwys Japan gyfan, yn ôl dysgeidiaeth Shingon
  • Kongōbu-ji (金剛峰寺), pencadlys yr enwad Shingon

Yn 2004, cyhoeddodd UNESCO fod Mynydd Koya, gyda dau leoliad arall ar orynys Kii, yn Safle Treftadaeth y Byd.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]