Kōyasan
Gwedd
| Math | cadwyn o fynyddoedd, mynydd sanctaidd, basin, ōaza, sangō, pilgrimage site, cyfadeilad crefyddol, hexad |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Ardal warchodol | Kōya-Ryūjin Quasi-National Park |
| Rhan o'r canlynol | Sacred Sites and Pilgrimage Routes in the Kii Mountain Range |
| Sir | 高野町 |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 1,000 metr, 885 metr |
| Cyfesurynnau | 34.2178°N 135.5833°E |
| Cod post | 648-0211 |
| Cadwyn fynydd | Kii Mountains |
![]() | |
| Statws treftadaeth | rhan o Safle Treftadaeth y Byd |
| Sefydlwydwyd gan | Kūkai |
| Manylion | |

Mynydd sanctaidd yn ardal Wakayama i'r de o Osaka yn Japan yw Kōyasan neu Kōya-san (Japaneg: 高野山 Kōya-san, "Mynydd Kōya").
Sefydlodd y mynach Kūkai fynachlog yno yn 816 sydd wedi tyfu i fod yn bencadlys Shingon, un o enwadau Bwdhaeth Japan. Mae'r mynydd yn gorwedd dros 1000 m i fyny ac mae ganddo wyth gopa. Ar ei lethrau mae tref Koya wedi tyfu, gyda phrifysgol astudiaethau crefyddol a tua 120 o demlau, gyda nifer ohonynt yn cynnig lletygarwch i bererinion ac ymwelwyr.
Ymhlith y lleoedd o nod ar y mynydd ceir:
- Okunoin (奥の院), y fynwent fwyaf yn Japan, lle ceir beddrod Kūkai yng nghanol y goedwig
- Danjōgaran (壇上伽藍)
- Kongōbu-ji (金剛峰寺), pencadlys yr enwad Shingon
Yn 2004, cyhoeddodd UNESCO fod Mynydd Koya, gyda dau leoliad arall ar orynys Kii, yn Safle Treftadaeth y Byd.
